Rhaglen 31
Emynau Pantycelyn 2
Bydd cynulleidfa cymanfa digwyddiad 'Deg Uchaf Pantycelyn' yn canu emynau adnabyddus o waith Pantycelyn. Y lleoliad cyntaf bydd ffermdy Pantycelyn. Yna byddwn ni'n ymweld â mynwent Eglwys Talgarth. Mae hi'n adnabyddus, wrth gwrs, gan mai yma y clywodd Pantycelyn bregeth efengylaidd Hywel Harris a phrofi am y tro cyntaf crefydd y galon. Parodd hyn iddo ddod yn un o’r seiadwyr. Yna symudwn ymlaen i Abergwesyn, Llangeitho ac Eglwys y Plwyf, Llanymddyfri.