Rhaglen 34
Daniel Protheroe
Rhaglen arbennig gyda Alwyn Humphreys wrth y llyw yn talu teyrnged i un o gyfansoddwyr mawr ein cenedl, Daniel Protheroe (1866-1934). Cawn glywed cynulleidfa o Gapel Yorath yng Nghwmgiedd yn canu rhai o emynau enwocaf Daniel Protheroe, gan gynnwys I Galfaria trof fy wyneb ar yr emyn-dôn Price. Hefyd siaradon ni â disgynnydd i Daniel Protheroe, Hannah Protheroe-Griffiths, a fu'n rhannu atgofion am ei hen ewythr.