Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 38

Y Dair Soprano

Fe fydd Gwion Hallam yn cyflwyno rhaglen ysbrydoledig sy'n cynnwys perfformiadau gan dair o sopranos mwyaf adnabyddus Cymru - Katherine Jenkins, Rebecca Evans ac Elin Manahan Thomas. Yn ogystal, cawn glywed symudiad poblogaidd y Benedictus allan o'r Offeren Heddwch gan Karl Jenkins wedi ei berfformio gan gôr Serendipity. Laudate Dominum gan Mozart bydd Katherine Jenkins yn ei berfformio, tra bydd Rebecca Evans yn canu Panis Angelicus. Siant Gregoraidd O Euchario bydd Elin Manahan Thomas yn ei ganu. Daw'r canu cynulleidfaol o'r Eglwys Farmor ym Modelwyddan, gyda'r perfformiadau eraill yn dod o'r Eglwys yn Abaty Margam, yr Ysbyty Brenhinol yn Chelsea, Llundain, ac o Eglwys Teilo Sant, Sain Ffagan.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales