Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen 39

Oedfa Gyfoes

Martyn Geraint fu'n cyflwyno rhaglen o ganeuon cyfoes o'r Afan Lido. Daeth canu cynulleidfaol yr wythnos yma o'r Afan Lido, Port Talbot. Yn ystod y rhaglen cawson ni gyfle i foli drwy wrando a chanu cytganau cyfoes cyfarwydd megis Iesu'r enw anrhydeddwn a Hyd yn oed mewn gofod du – Iesu fydd yna. Cawson ni glywed hefyd ambell i gytgan newydd ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol megis Fy Iesu Ngwaredwr yn wreiddiol gan Darlene Check sy'n adnabyddus am arwain canu cynulleidfaol yn Sydney, Awstralia. Fe fydd Aled Myrddin a Nia Pryce yn ymuno â Martyn Geraint i arwain y canu ac fe gawson ni glywed deuawd gan Nia ac Aled. Bu Martyn yn sgwrsio gyda Nia i gael gweld sut mae ei bywyd hi wedi newid ers geni Joshua, ac fe gawson ni gyfle i ddod i ddeall beth sy'n mynd trwy ei meddwl hi pan yn arwain yr addoli. Hefyd, fe gawn unawd gan Aled Myrddin – enillydd Cân i Gymru 2008.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales