Hanes grŵp o ffrindiau coleg sy’n cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf ers ugain mlynedd yw canolbwynt Arwyr, drama Dydd Gŵyl Dewi S4C.
Mae popeth yn mynd yn dda i ddechrau wrth i’r ffrindiau – a bortreadir gan Huw Garmon, Dewi Rhys Williams, Alun ap Brinley, Bethan Dwyfor a Rhys Parry Jones – gynnal aduniad. Ond wrth i’w gorffennol daflu cysgod dros eu presennol, mae hen grachau'n cael eu codi – ydyn nhw’n dal i fod yn wir ffrindiau?
Geraint Lewis ydy awdur y sgript, a Huw Chiswell ydy'r cyfarwyddwr a chyfansoddwr y gerddoriaeth. Cafodd Huw hwyl fawr ar y prosiect yn rhannol am ei fod yn gallu uniaethu â chymeriadau’r ffilm. Mae’r cymeriadau hynny tua’r un oedran ag e, wedi bod trwy’r coleg yn yr un cyfnod ac felly wedi cael profiadau digon tebyg.
"Pan rydych chi'n ifanc ac yn joio bywyd i'r carn, rydych chi'n teimlo'n anorchfygol,” meddai Huw. “Mae’r criw yn colli un o’u ffrindiau trwy farwolaeth. Nid yn unig mae'n rhaid i'r rhai sydd ar ôl wynebu marwolaeth un o'u cyfoedion, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu'r newidiadau anochel yn eu perthynas nhw â'i gilydd hefyd.”
"Wrth i fi fynd yn hŷn dwi’n sylweddoli pa mor bwysig yw cyfeillgarwch – y ffrindiau rheiny y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw mewn unrhyw argyfwng,” meddai Rhys Parry Jones, sy’n chwarae un o’r ffrindiau, Huw.
"Rydych chi’n gwybod eu bod nhw yna i chi ac mae hynny’n amhrisiadwy.”
Yn addas ddigon, mae'r aduniad yn cael ei chynnal yng Nghilmeri dros Ŵyl Cofio Llywelyn - yn sicr un o arwyr y Cymry. Cafodd y tîm cynhyrchu gymorth gan drefnwyr y seremoni goffa wrth ffilmio i ail-greu'r naws.
"Mae ’na awyrgylch arbennig yn y lle. Roedd hi’n deimladwy iawn i ffilmio yno,” meddai Rhys. “Ces i deimlad cryf ei bod hi’n bwysig i gofio – mae’n lle unigryw iawn.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales