Gyda'r eli haul, byrddau syrffio a'r offer gwersylla wrth law, mae criw Ysgol Gyfun Bro Taf yn mynd ar drip i lan y môr wrth i'r gyfres ddrama Gwaith/Cartref barhau ar S4C nos Sul 29 Ebrill. Ond yr athrawon - ac nid y plant - fydd yn camfihafio fwyaf a bydd ambell gyfrinach yn dod i'r lan.
Un fydd yng nghanol yr holl ddrygioni yw'r Pennaeth Daearyddiaeth, Steffan Young (Geraint Todd).
Ers iddo gyrraedd Ysgol Gyfun Bro Taf ar ddiwedd y gyfres gyntaf, mae Steffan wedi llwyddo i fonopoleiddio, bychanu a chwarae gemau emosiynol gyda nifer o'r staff, gan gynnwys Beca Matthews (Hannah Daniel), Wyn Rowlands (Richard Elis) a Nerys Edwards (Catrin Fychan).
"Mae gan Steffan broblem 'control' gyda merched," meddai Geraint Todd, yr actor 32 oed o Bontypridd sy'n chwarae Steffan. "Rwy'n credu ei fod yn bwysig iddo deimlo rheolaeth dros ferched, yn seicolegol ac yn gorfforol. Rydym eisoes wedi gweld Steffan yn treisio Beca ac yna'n gwadu bod e 'di gwneud unrhyw beth o'i le. Mae'n amwys iawn - ar adegau mae'n sinistr iawn ond ar adegau eraill, dyw e ddim yn sylweddoli bod e'n gwneud unrhyw beth drwg.
"Dyw e ddim yn hoffi colli rheolaeth a gwae chi os fyddwch chi'n ei herio. Mewn ffordd mae'n bwlio Wyn ac mae'n gallu monopoleiddio Simon i wneud be bynnag mae e eisiau. Yn ddiddorol, dyw e ddim yn llwyddo i gael yr un fath o effaith ar Dan na Grug. Mae fel petai'r ddau wedi dod i weld trwy Steffan a'i gynllwynio"
Ond mae Steffan yn gymeriad cwbl groes i'r actor sydd hefyd yn chwarae rhan Ed - perchennog tafarn y Deri - yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
"Mae'n her arbennig i actor gael gwthio'ch cymeriad i'r ffiniau a chael actio mewn ffordd i'r gwrthwyneb i fywyd bob dydd. Y cymeriadau drwg a sinistr yw'r rhai gorau i chwarae. Unwaith dwi'n gwisgo'r siwt athro amdana i, mae'r dyn drwg yn cael dod i'r wyneb. Mae 'na rhywbeth am wisg bwerus a siarp Steffan sy'n dylanwadu ar y ffordd rwyt ti'n actio," eglura Geraint.
Tra bod Steffan yn parhau i wthio'r ffiniau gyda'i gyd-weithwyr, mae Dan (Huw Rhys) a Grug (Rhian Blythe) yn bachu ar y cyfle i wario ychydig o amser gyda'i gilydd ar y trip. Ond mae yna frwydr o'u blaenau i gadw'r affêr yn gyfrinach pan fo disgybl yn gweld mwy na ddylai.