Neidio at y cynnwys

S4C

drama

Gwaith/Cartref

Cyfres newydd sy'n dechrau ar S4C, drama gyfoes sy'n dilyn grŵp o athrawon Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf.

Cawn ddilyn bywyd proffesiynol a phersonol yr athrawon wrth iddynt ymdopi â phlant cegog, rhieni dig, athrawon newydd o dan hyfforddiant, swyddi newydd, straen ac wrth gwrs lot o farcio!

Bob wythnos, bydd y bennod yn rhannu rhwng gwaith a chartref. Tra bod yr hanner gyntaf yn dilyn hynt a helynt bywyd ysgol yr athrawon, cawn weld sut fywyd cartref sydd ganddynt. Ar ol straen neu fwynhad diwrnod ysgol, gwelwn fywyd personol y grŵp yn datblygu wrth iddynt ddelio gyda phroblemau newydd, arian, cymdeithasu, cariad ac unrhyw broblem/sefyllfa arall sy'n cael ei daflu atynt.

Grŵp o gymeriadau lliwgar a bywiog sy'n ganolbwynt i'r ddrama yma, trawstoriad o athrawon sy'n dangos bywyd go iawn, difrifol a doniol gweithio mewn ysgol gyfun Gymraeg.

Dyma swydd gorau'r byd i rai ohonynt yw dysgu, gwneud yn dda a symud i fyny yn yr ysgol yw eu prif nod - beth bynnag yw'r canlyniad!

I eraill swydd dros dro yw hi ac yn brysur yn breuddwydio am gyfle gwell - ffordd i dalu'r biliau.

Wedi dod i ddiwedd eu tennyn mae eraill ar ôl fynyddoedd o ddysgu ac mae'r straen yn dechrau dangos wrth i eraill dechrau ei hyfforddiant.

Mae'r cymeriadau'n amlygu wrth iddynt ddelio gyda gwahanol sefyllfaoedd, ond pwy mae'r plant yn herio tybed? Gwyliwch i ddarganfod y sgandal diweddaraf yn Ysgol Gyfun Bro Taf wrth i fywyd fynd yn ei blaen.