Neidio at y cynnwys

S4C

drama

Omlet

Mae Angharad Austin, prif gymeriad y ffilm Omlet, sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Nia Medi, yn ferch sengl yn ei thridegau sydd â bywyd personol eitha' cythryblus. Mae wedi profi siomedigaethau lu yn ei bywyd carwriaethol, ond eto, mae'n ferch sy'n gwybod sut i fwynhau ei hun, sy'n gallu chwerthin a joio yng nghwmni ei ffrindiau.

Yn yr un modd mae'r actores sy'n portreadu Angharad yn y ffilm, Delyth Eirwyn, hithau wedi profi ystod o emosiynau ar y set.

"Dyma un o brofiadau gorau fy ngyrfa i," meddai'r actores, a ddaw yn wreiddiol o bentref Llanddeusant ar Ynys Môn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Mae hi'n ffilm girlie ac roeddan ni fel criw yn ferched gyda'n gilydd. Merched oedd yn cyfarwyddo a chynhyrchu. Ni'r merched oedd in control, ac roeddan ni wedi medru creu awyrgylch braf ar y set. Ac mi roedd Nia, yr awdur, wedi sefyll yn ôl, wedi gadael i ni fod, ond mi roeddan ni'n teimlo ei chefnogaeth hi.

"Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae gen i ffrind am byth yn Olwen Rees, sy'n chwarae rhan Dodo Megan, modryb Angharad. Mae'n berson mor hyfryd ac yn actores mor wych. Mae hynny'n rhoi hyder i ti, ac mi wyt ti'n gallu ymlacio a mwynhau'r gwaith. Gan fod Angharad ym mhob golygfa bron, ro'n i'n teimlo rhyw gyfrifoldeb am y ffilm yn ei chyfanrwydd. Ro'n i am fod yn driw i'r cymeriad roedd Nia wedi ei greu."

Ond mi roedd Delyth y teimlo'n drist ar adegau. "Mae 'na rai golygfeydd emosiynol yn Omlet, ac fe fues i'n crio lot yn ystod y ffilmio. Fel arfer, dwi'n gorfod dibynnu ar tear stick i fy ngwneud i grio ar y set. Ond yn Omlet ro'n i'n medru crio yn syth bin, oherwydd fy mod wedi mynd o dan groen y cymeriad gymaint. Wrth ffilmio sawl golygfa drist ar y diwrnod ola mi ro'n i'n beichio crio - emosiwn y foment, mae'n siŵr."

Mae'n bosib hefyd ei bod yn teimlo'n drist oherwydd y byddai'n colli cwmni dau actor sy'n portreadu dau ddyn pwysig ym mywyd Angharad - y "Drong", ac Arfon. Julian Lewis Jones – Mike yn Caerdydd - a Gareth Bryn, actor sydd wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad teledu yn ogystal â sioeau West End Mama Mia ac Acorn Antiques, sy'n dod â'r cymeriadau'n fyw ar y sgrin, ac mae Delyth wedi mwynhau cydweithio â'r ddau.

"Mae wedi bod yn ddiddorol gweithio gyda dau berson mor wahanol i'w gilydd," esbonia. "Mae Gareth yn berson cynnil, tra bo Julian yn gwisgo ei galon ar ei lawes. Mae hynny'n siwtio'r cymeriadau y maen nhw'n eu chwarae i'r dim. Ac mae techneg actio'r ddau yn gwbwl wahanol hefyd sy'n ddiddorol."

Ffilmiwyd Omlet yn y dref glan môr hyfryd yng Ngwynedd, Cricieth, ac ar ynys Santorini yng ngwlad Groeg.

"Roedd Santorini'n fendigedig," meddai Delyth. "Mae'n lle mor rhamantus. Roedd pob golygfa oeddan ni'n saethu yn edrych yn anhygoel. Ac mae'r Groegwr mae Angharad yn mynd i'r afael â fo tra ar wylia yn drop dead gorgeous hefyd. Mae'n werth i chi wylio'r ffilm er mwyn ei weld o, wir i chi!"

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales