Neidio at y cynnwys

S4C

Drama

Porthpenwaig

Croeso i bentref glan-y-môr yn llawn drama ac emosiwn

Triongl cariad, busnes teulu llwyddiannus, cymdeithas glos cefn gwlad, cymeriadau ffraeth, cysgodion y gorffennol a thirlun trawiadol Pen Llŷn yn gefn i'r cyfan - croeso i bentre' Porthpenwaig.

Cawn ddilyn hynt ac amryw helynt teulu gwesty Yr Angor. Cawn hanes cymeriadau mewn pentref glan-y-môr yn y gyfres a ffilmiwyd ar leoliad yn Aberdaron a'r cyffiniau.

Bydd teulu'r Angor, Ynyr ap Hedd, ei wraig Heulwen, eu merch Heledd ac yn arbennig, mab y teulu, Huw Ynyr, yn dod yn gyfarwydd inni yn y ddrama a gafodd ei chynllunio, storia a'i chyd-sgriptio gan yr awdur, cyfarwyddwr theatrig ac arweinydd côr adnabyddus Cefin Roberts.

Triongl cariad

Prif ganolbwynt y ddrama ydy'r triongl emosiynol rhwng Huw (Tudur Evans), a'r ddwy ferch yn ei fywyd. Mae'n rhannu ei amser rhwng ei gariad bore oes, Gwenan Lloyd (Nerys Lewis) a'i gariad coleg, Casi Mainwaring (Elin Llwyd), hogan o Gaerdydd y mae wedi mwynhau affêr hirdymor gyda hi yn y coleg ym Mangor.

Y tu hwnt i'r triongl, mae cymuned glos iawn o gymeriadau difyr, gan gynnwys staff Yr Angor fel y barmêd Manon, Muriel 'Bob Dim' o'r siop leol, y pysgotwr garw lleol, Largo a'i wraig biwis Ann, Ficer ifanc yr Eglwys, Dewi Aeron a mam Gwenan, Edna, sy'n byw yng nghysgod profedigaeth.

Mae'r gyfres hefyd wedi tynnu ynghyd gast cryf sy'n gyfuniad o wynebau newydd ac actorion profiadol a chyfarwydd. Yn ogystal â'r tri phrif actor, mae Morfudd Hughes, John Ogwen, Iola Gregory, Lowri Mererid, Olwen Rees, Delyth Eirwyn a Huw Davies ymhlith y cast.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales