Wrth i'r gyfres ddrama boblogaidd Teulu ddychwelyd i S4C mae un cymeriad newydd yn benderfynol o greu argraff.
O nos Sul, 8 Ionawr, fe fyddwn yn dilyn hynt a helynt teulu'r Morgans, holl densiynau Meddygfa Glan Don a'r Cei, y caru, y cecru a'r anghydweld sy'n gymaint rhan o Teulu sydd wedi'i ffilmio'n rhannol ar leoliad yn Aberaeron ac wedi'i chreu a'i hysgrifennu gan Meic Povey a Branwen Cennard.
Ond yng nghalon y cyfan, bydd hi'n anodd anwybyddu Haf Owen, y rheolwraig farchnata benderfynol sydd wedi dod i glwb Llŷr Morgan i geisio cadw trefn ar y staff a'r perchennog.
Yr actores Lisa Marged, sy'n hanu o Nantycaws ger Caerfyrddin, yw Haf, ac mae hi wrth ei bodd yn chwarae'r rhan.
"Mae Haf yn alluog, yn hynod o weithgar ac yn angerddol iawn am ei swydd. Ond mae'n gorfod magu croen eliffant yn gyflym iawn ac wrth i amser fynd yn ei flaen mae pobl yn meddwl ddwywaith cyn ei chroesi," meddai Lisa, 24 oed, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
"Mae wedi arfer cydweithio â phobl broffesiynol sydd o ddifri' am ei gwaith, felly mae symud i reoli'r clwb penodol hwn yn agoriad llygaid iddi. Mae ambell un yn ceisio cymryd mantais a'i herio, ond credwch chi fi, dyw Haf Owen ddim yn un i osgoi gwrthdaro a rhoi'r ffidl yn y to," ychwanega Lisa, sy'n gyn fyfyriwr o Goleg y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
Mae Lisa yn gyfarwydd i nifer o wylwyr S4C gan ei bod wedi actio mewn cyfresi fel Pen Talar, Alys a Zanzibar ond dyma ei rhan actio fawr gyntaf ar deledu.
"Rwy'n edmygu angerdd Haf am ei gwaith ac yn teimlo'r un fath o angerdd am fy ngwaith i fel actores. Ond does gen i ddim croen eliffant fel hi. Mi faswn i wedi dymchwel erbyn hyn petai pobl yn fy nhrin i'r un modd maent yn ei thrin hi," meddai Lisa, sydd yn gantores mezzo soprano alluog ac wedi cyrraedd rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009.
"Dwi wedi bod yn ffan mawr o Teulu erioed a dwi'n cofio dweud wrth Mam y byddwn i'n dwlu bod yn rhan o'r gyfres a phwy feddyliai blynyddoedd wedyn y byddwn i'n aelod o'r cast. Ond wy wedi cael croeso mawr. Dywedodd yr actores Mair Rowlands yn fy nghlust ar fy niwrnod cyntaf, 'Sdim ishe i ti fecso, er mor cheesy mae'n swnio, i ni gyd fel un teulu mawr,' ac mae hynny'n wir."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales