Neidio at y cynnwys

S4C

drama

Tipyn o Stad

Tydi cartref Tony a'i deulu ym Maes Menai byth yn hafan o heddwch ar y gorau. Ond yn rhaglen nesaf Tipyn o Stad mae lefel y gweiddi, y poeni a'r panig hyd yn oed yn uwch nag arfer.

Ers i'w wraig, Susan, ennill arian mawr ar y bingo, mae Tony wedi breuddwydio am fod yn ŵr busnes o fri. Ac yn awr mae wedi neidio ar y cyfle i agor ei gaffi ei hun yn y dref. Mae'n ystyried y fenter fel busnes teuluol. Ond does dim llawer o ymgynghori wedi bod gyda'i deulu, a dydy diwrnod cyntaf y caffi newydd, McTonys, ddim yn llwyddiant ysgubol.

Mae Huw Marshall, sy'n chwarae rhan Tony, wedi mwynhau portreadu Tony'n fawr.

"Mae'n gymeriad sydd wedi dod ag elfen o gomedi i Tipyn o Stad, a dwi'n meddwl taw comedi yw fy nghryfder mwyaf fel perfformiwr. Wedi dweud hynny, mae o wedi cael, ac yn mynd i gael, adegau difrifol iawn, ac mae'r her o berfformio'r golygfeydd hyn wedi bod yn ddiddorol a brawychus ar adegau! Dwi wedi bod yn lwcus o gael gweithio efo Elen Gwynne (Susan) yn bennaf. Mae'n actores ragorol, a dwi 'di dysgu lot oddi wrthi hi."

A yw Tony a Huw yn debyg i'w gilydd?

"Mae'n ddoniol faint o bobl sy'n tybio fy mod wedi cael fy nghastio fel Tony oherwydd fy mod i, fel yntau, yn slob diog! Hoffwn gadarnhau ein bod ni'n gwbwl wahanol, yn enwedig gan fy mod i wedi colli wyth stôn ers dechrau chwarae Tony tair blynedd yn ôl, ac yn mynd i'r gampfa bedair gwaith yr wythnos. Yr unig beth sy'n debyg rhwng y ddau ohonon ni yw ein cariad tuag at Glwb Pêl-droed Everton."

Gan mai hon yw'r gyfres olaf un o Tipyn o Stad, a yw Huw yn fodlon datgelu a fyddwn ni'n ffarwelio â Tony a'i deulu yn fodlon eu byd?

"Bydd yn rhaid i chi wylio hyd at ddiwedd y gyfres i weld! Y peth pwysicaf ym mherthynas Tony a Susan ydy eu cariad at ei gilydd. Tydyn nhw ddim yn rhieni mor ddrwg â hynny, er gwaetha trafferthion y plant, Harley, Whitney, Jordan, Kylie a Kimberley. Mae Tony'n foi reit ddiniwed yn y bôn. Tydio ddim yn un sydd eisiau wynebu'r gwir. Mae ei wydr wastad yn hanner llawn yn hytrach na'n hanner gwag. Ond, mae'n siŵr y bydd na lawer o grio a chwerthin cyn i ni ffarwelio â nhw am y tro olaf."

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales