Neidio at y cynnwys

S4C

drama

Tipyn o Stad

Tybed a fydd bywyd ar i fyny i drigolion Maes Menai yn y gyfres ddiweddaraf, a’r un olaf, o’r ddrama Tipyn o Stad?

Roedd diweddglo hynod o gyffrous i’r gyfres ddiwethaf, gyda Steve yn gelain ar y llawr ar ôl cael ei lofruddio gan Joyce, Heather wedi cyrraedd pen ei thennyn, Robin wedi cael ei wrthod gan Carys, ac Ian Fflash wedi cael ei ddal yn ceisio treisio Whitney Marie.

Yr unig obaith yng nghanol y fath lanast oedd y newyddion cyffrous bod Susan wedi ennill £200,000 ar y bingo.

Wrth i ni ailgydio yn y stori fisoedd yn ddiweddarach, fe welwn fod bywydau Susan a Tony a’r teulu hefyd wedi newid cryn dipyn yn sgil ennill yr arian mawr. Maen nhw’n symud i fyw i hen gartref y Gurkhas, gyda’r tŷ wedi cael ei weddnewid yn drawiadol.

“Mae’n gymaint o newid byd i Susan, ac mae wedi bod fel chwa o awyr iach i mi,” meddai’r actores Elen Gwynne, sy’n chwarae Susan ers chwe blynedd.

“Yr hyn sy’n ddiddorol ydy, er bod Susan a Tony rŵan yn byw mewn tŷ mwy crand, a ddim yn gorfod poeni am bres, maen nhw’n aros yr un fath yn y bôn. Mae hi a Tony yn siwtio ei gilydd, maen nhw’n caru ei gilydd, maen nhw’n hapus. Beth sy’n ddoniol ydy bod Susan yn meddwl ei bod hi’n ychydig mwy crand nag oedd hi, ond fel y gwelwn yn ystod y gyfres, tydi pres ddim yn prynu steil i rywun!”

Ar ôl yr holl flynyddoedd, mae chwarae Susan mor naturiol ag anadlu i Elen. “Dwi ddim yn gorfod meddwl sut mae hi’n ymateb i bethau erbyn hyn, mae’n dod yn naturiol, ” meddai.

Un arall sy’n adnabod cymeriadau Tipyn o Stad gystal â’i theulu ei hun yw cynhyrchydd y gyfres ers y cychwyn cyntaf, Pauline Williams. A fydd hi’n hiraethu amdanynt ar ôl i’r gyfres ddod i ben?

“Yn naturiol mi fydd 'na rywfaint o hiraeth ond ar ôl llywio eu bywydau cyhyd, mi fydd hi’n braf medru eu gadael i fynd a chanolbwyntio ar symud 'mlaen i brosiectau newydd,” meddai.

“Mae wedi bod yn ddiddorol gweld y cymeriadau’n datblygu a thyfu dros y blynyddoedd, gyda’r actorion yn rhoi eu stamp arnyn nhw."

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales