"Dwi erioed wedi chwarae cymeriad mor ofnadwy!" meddai'r actores Janet Aethwy, yn sgwrsio am ei rhan fel y cymeriad newydd Iona yn y gyfres ddrama boblogaidd.
Ers iddi gael ei rhyddhau o'r carchar ar ddechrau'r gyfres, mae Iona wedi mynd ati i gynhyrfu'r dyfroedd ym Maes Menai, gan wneud bywyd yn hynod o anodd i'w mab, Scott (Dyfrig Evans), a'i brawd bach, Ger (Rhodri Siôn). Mae'n amlwg nad yw ei chyfnodau yn y carchar wedi cael effaith bositif arni, gan ei bod hi'n parhau i ddelio â chyffuriau. Does dim ots ganddi pwy yw ei chwsmeriaid, y cwbl sy'n bwysig iddi yw eu harian.
Yn actores brofiadol, sydd wedi cael ei gweld mewn sawl cynhyrchiad ar S4C gan gynnwys Pen Tennyn, Siôn a Siân, Treflan ac, yn ddiweddar, y gyfres Cowbois ac Injans, mae chwarae rhan Iona, serch hynny, wedi bod yn brofiad newydd a ffres iddi hi.
"Does neb yn meddwl castio fi mewn rhan fel hon fel arfer, mae'n risg, gan ei bod hi mor wahanol i'r cymeriadau eraill rwyf wedi'u chwarae. Wrth i mi fynd o dan groen y cymeriad newydd yma yn Tipyn o Stad dwi'n ei chwarae hi mor naturiol ag y medra i."
Mae Janet yn mwynhau'r profiad o fod yn rhan o'r digwyddiadau diweddaraf ym Maes Menai, ac wedi mwynhau creu cymeriad Iona, sydd wedi golygu llawer o drafod gyda'r aelodau o'r criw cynhyrchu sy'n gyfrifol am y colur a'r gwisgoedd.
Gallwch fentro y bydd Iona yn neidio ar y cyfle'r wythnos hon i greu hafoc ar noson lansio'r fwydlen bistro yng nghaffi Ceri Ann. Wrth i Ceri Ann geisio achub y sefyllfa, mae rhywun arall yn gweld ei gyfle.
I ffwrdd o'r helyntion yn y caffi, penderfyniad anodd dros ben sy'n wynebu Kylie wrth i Susan roi pwysau enfawr arni i gael erthyliad. Mae Bev yn cael sioc, ac mae Ed a Nerys yn closio. A dyw bywyd byth yn hawdd i Carys druan. Wrth iddi ddechrau cael trefn ar bethau, a fydd ymwelydd annisgwyl â Maes Menai yn achosi cynnwrf a chymhlethdod unwaith eto?
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales