Addasiad o nofel Caryl Lewis yw Y Rhwyd, ffilm newydd sbon sy'n llawn cynnwrf a chynllwynio.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes Meic, dyn priod parchus sy'n dad i ddau o blant, Beca a Jac. Mae ganddo wraig gariadus, Eirlys, gartref cyfforddus, swydd wrth ei fodd a ffrind gorau ffyddlon yn Paul - ond dyw hyn ddim yn ddigon, ac mae'n cysylltu â merched yn ddirgel ar y we.
Mae un ferch mae'n ei chyfarfod, Miss X, yn newid ei fywyd, ac mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth i Meic wedi hynny. Ond ai Miss X sydd wir yn gyfrifol am ddinistrio Meic, neu ai llaw rhywun arall sydd yn cau'r rhwyd yn dynn amdano?
Mae nifer o wynebau amlwg yn chwarae'r prif gymeriadau yn y ffilm, gan gynnwys Geraint Morgan, Hywel yn y ddrama Teulu, sy'n chwarae Meic, a Mali Harries, Kate yn Caerdydd, sy'n chwarae rhan Eirlys.
Cafodd Caryl y syniad am y nofel ar ôl gweld stori mewn papur newydd oedd yn dweud bod mwy a mwy o ddynion priod yn cyfarfod merched ar y we.
"Fe wnes i dipyn o ymchwil," meddai'r awdures, sy'n dod o Aberaeron yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ger Aberystwyth. "Ac wrth wneud hynny cefais syniad am y bywydau cudd mae pobl yn byw ac yn credu eu bod yn gallu eu rheoli. Ond mae pethau'n gallu mynd o chwith, a phan mae hynny'n digwydd mae pethau'n rhaflo'n sydyn iawn."
Addasodd Caryl ei nofel ei hun i'r sgrin, ac er ei fod yn broses gwbl wahanol i ysgrifennu nofel, fe fwynheuodd y gwaith yn fawr.
"Rwy'n licio'r broses gan fod ysgrifennu yn gallu bod yn swydd unig ar adegau. Mae'n braf gweithio gyda phobl eraill a'u cael nhw i ddod ag arbenigedd gwahanol i'r prosiect."
Bydd addasiad arall o un o nofelau mwya' poblogaidd Caryl, Martha Jac a Sianco, hefyd yn cael ei darlledu ar S4C dros y Nadolig - ac mae cefndir y ddwy stori yn wahanol iawn.
"Fel awdur, dwi ddim eisiau cael fy rhoi mewn bocs. Mae'r ddwy nofel, un yn ddinesig, a'r llall wedi ei gosod yng nghefn gwlad, yn ffordd o roi amrywiaeth i'm gwaith," eglura.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales