Neidio at y cynnwys

S4C

drama

Y Stafell Ddirgel

Y Gyfres

Dros gyfnod o chwech wythnos, bydd S4C yn ail ddarlledu'r gyfres ddrama Y Stafell Ddirgel, sy'n seiliedig ar nofel boblogaidd y diweddar Marion Eames.

Mae nofel Y Stafell Ddirgel yn un o weithiau gosod CBAC ar gyfer arholiad TGAU Cymraeg. Gobeithiwn yn fawr y bydd yr ail ddarllediadau yma yn werthfawr i'r disgyblion hynny sy'n astudio'r nofel. Addaswyd y nofel ar gyfer y teledu gan Manon Eames.

Pennod 6

Y bennod olaf yn y gyfres. Mae Rowland yn gorfod brwydro â'i ddicter yn sgîl llofruddiaeth Dorcas, a fydd yn llwyddo i oresgyn ei reddf i daro'n ôl a dial?

Pennod 5

Mae'r berthynas rhwng Rowland a Marged yn dyfnhau ond dyheu am ei gariad a wna Marged nid am ei barch. Goddefa un o drigolion ystad Brynmawr y gadair foddi ac mae'r rhwyd yn cau wrth i'r awdurdodau garcharu Ellis Puw. A phwy sy'n dial yn gi-aidd ar Lisa a Dorcas, sydd ar eu pennau eu hunain ym Mrynmawr?

Pennod 4

Daw profedigaeth i deulu Brynmawr a rhaid i Rowland ddewis rhwng ei gred a'i deulu. Mae'r chwarae'n troi'n chwerw i Lisa wrth iddi hi a Huw Morris fwynhau atyniadau Ffair Calan Mai. Dal i ddioddef a wna Robert Owen yn y carchar ac mae'r Crynwyr yn dewis ei olynydd. Ond mae'n rhaid i Rowland ddechrau talu wrth iddo ddioddef ymosodiadau gan y werin.

Pennod 3

Pa gyfrinach mae Cadi'n ei guddio a phwy sy'n llygadu Lisa? Sylweddola Meg ei bod wedi gwneud camgymeriad difrifol trwy roi ei hiechyd hi a'r babi yn y fantol, a does dim modd cuddio'r gwir bellach. Mae absenoldeb Rowland o'r eglwys yn tynnu sylw'r awdurdodau ac mae Hywel Vaughan yn ei rybuddio wrth i'r Ddeddf Oddefgarwch gael ei dileu. Gyda thywallt gwaed yn yr eglwys a merched gorffwyll northlymyn yn y dref, mae Dolgellau'n ferw wrth i'r Crynwyr baratoi am ryfel. Ac wrth i Meg gynllunio ei dihangfa, mae Huw Morris yn penderfynu elwa ar ei hofnau.

Pennod 2

Mae'r awyrgylch ym Mrynmawr yn oeraidd a diserch wrth i Rowland ddelio â bradychiad Meg. O ganlyniad mae ei berthynas gyda'i was diymhongar, Ellis Puw, a'r Crynwyr lleol yn dyfnhau wrth iddo fynychu eu gwasanaethau heb yn wybod i neb. Mae Meg hefyd yn ymweld â rhywun yn ddirgel wrth iddi chwilio am gysur yn yr Hengwrt ac ym mreichiau Hywel Vaughan. Ond mae llygaid maleisus y gwas Huw Morris, (Bryn Fôn) yn gwylio'r cyfan. Poeni am ddyfodol ei gyfeillion newydd a wna Rowland wrth i Hywel a'r Rheithor newydd, (John Ogwen), gynllwynio i anwybyddu'r Ddeddf Oddefgarwch ac erlid y Crynwyr i'w marwolaeth. A phenderfyna Meg ymweld â gwrach leol i ddatrys un broblem fawr sy'n ei phoeni.

Pennod 1

Ryland Teifi

Rhan gyntaf addasiad moethus o'r nofel glasurol gan Marion Eames. Dyma stori rhai o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Cymru, megis Rowland Ellis, Sgweiar Brynmawr (Ryland Teifi), a'i wraig brydferth ond hunanol, Meg (Lowri Steffan), ac yn gefndir iddynt, cyfnod cythryblus y Crynwyr yn ardal Dolgellau.

Mae'n amser y ffair a blwyddyn ers i Rowland a Meg briodi gyda phethau'n fêl i gyd wrth iddyn nhw ddisgwyl genedigaeth eu plentyn cyntaf. Ond mae'n stori wahanol yn y dref wrth i sect grefyddol y Crynwyr gael ei herlid yn ddidrugaredd gan yr ustusiaid a Sgweiar didostur yr Hengwrt, Hywel Vaughan (Ian Saynor). Wrth i Rowland ddyheu am oddefgarwch, a Meg am wefusau dyn arall, heuir yr hadau am frad a thwyll ym Mrynmawr.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales