Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Mae Ani'n credu fod ganddi bopeth, gyrfa, tŷ, gwyliau. Ond o dan y wyneb, ydi pethau mor berffaith â mae nhw'n ymddangos? Ym mhriodas ei chwaer mae un sylw gan Dad yn gorfodi Ani i wneud penderfyniad mawr. Pwy sy'n dweud na elli di gael popeth mewn bywyd?
O'r diwedd mae'r jwg newydd archebodd Trystan wedi cyrraedd ac mae o'n falch o gael ei dangos i Jason. Yn anffodus dydi ymateb Jason ddim yr hyn oedd Trystan yn ddisgwy! Yn dilyn sioc Sophie yn sylweddoli bod posibilrwydd ei bod yn disgwyl eto, does ganddi ddim dewis ond prynu prawf ond mae pethau'n mynd yn ddyrus pan fo Mair yn cael hyd i rhywbeth ym mag ei mam. Yn dilyn y sioc o glywed mai Ben yw tad Tammy, mae o'n dechrau rhoi ei gynllun ar waith o ddifri, ac oherwydd bod Tammy cymaint o'i of
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl