Ar gael nawr ar S4C Clic
Drama chwe rhan gynhyrfus, newydd sbon.
Mae Jamie Morris yn gweithio mewn tîm Argyfwng Iechyd Meddwl yng nghymoedd De Cymru; dyn sydd bob amser wedi torri corneli ac wedi mynd un cam ymhellach i'w gleifion. Ond mae Jamie yn gorwynt o anhrefn, yn jyglo un argyfwng ar ôl y llall gartref, yn y gwaith ac ar y strydoedd. Mae ei swydd yn ei gadw ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned, ond ar ba gost i'w les ei hun?
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Ar ôl yr ymosodiad yn yr Iard mae Ben yn gorfod ateb nifer o gwestiynau gan nifer o bobl yn cynnwys Iestyn, Gwenno, yr heddlu a Jason, a bydd yn chwysu'n galed i geisio parhau efo'i gelwyddau... yn enwedig ag ambell un yn ddrwgdybus ohono. Wrth i Lea gymryd cam mawr ymlaen i ddelio gyda'r ffaith mai Mathew yw ei thad, bydd yn sioc i Philip a bydd y cyfan yn ormod i rywun. Ac mae'r problemau'n parhau i Dani wrth i Rhys a Trystan geisio trefnu gwyliau a hithau heb staff.