S4C wedi’r newid i ddigidol
Ar ôl y newid, bydd S4C yn sianel gwbl Gymraeg.
Bydd y rhaglenni Saesneg, sy’n rhan o’r arlwy ar S4C ar hyn o bryd, yn cael eu darlledu ar wahân ar Channel 4.
Ar ddigidol, cewch gyfle i fwynhau pob un o’ch hoff raglenni ar S4C. Bydd y rhain yn cynnwys y rhaglen gylchgrawn boblogaidd
Wedi 7, y sebon dyddiol
Pobol y Cwm, cyfres wledig
Cefn Gwlad, y newyddion ar
Newyddion a’r prif ddigwyddiadau chwaraeon i gyd.
Cewch y gwasanaeth meithrin,
Cyw, hefyd, a darllediadau cynhwysfawr o brif wyliau a digwyddiadau Cymru, fel y
Sioe Frenhinol,
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen neu’r
Eisteddfod Genedlaethol.
Rydym ar hyn o bryd yn trefnu ymgyrch bwysig a fydd yn dweud popeth wrthych am S4C ar ôl y newid i ddigidol. Am fanylion ewch at
Digwyddiadau Ymlaen â’r Sioe.
I wybod mwy am wasanaethau arbennig fel isdeitlau Saesneg, iaith arwyddion neu sain ddisgrifiadau, ewch i
Gwasanaethau mynediad/Nodweddion arbennig
Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 004, Virgin TV 167 a Freesat 104 yng Nghymru. Y tu allan i Gymru, mae S4C ar gael ar Sky 134 a Freesat 120.