Cyswllt
Mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael bob dydd o’r flwyddyn rhwng 9.00 y bore a 10.00 yr hwyr i ateb unrhyw gwestiwn am raglenni S4C neu i roi cyngor ar y newid i ddigidol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar
0870 6004141*.
Am fwy o wybodaeth ar y newid i ddigidol yn eich ardal chi ewch i
www.digitaluk.co.uk neu ffoniwch
08458 484848.
Os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy, wedi eich cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall, a naill ai’n derbyn neu’n gymwys i dderbyn rhai buddiannau anabledd, cysylltwch â Chynllun Cymorth y Newid, Digital UK, ar
0800 40 85 900* neu ewch i
helpscheme.co.uk am fwy o fanylion.
*Gwifren Gwylwyr S4C: Ni ddylai galwadau gostio mwy na 6c y funud o linell BT.
*Llinell Gymorth Digital UK: Codir 2c y funud a 0.5c y funud gyda'r hwyr (a thâl cysylltu BT o 6c). Gall cyfraddau darparwyr eraill amrywio.
*Mae galwadau i Gynllun Cymorth y Newid, Digital UK, am ddim.
Mae digwyddiadau Ymlaen a'r sioe wedi dod i ben. Mae S4C yn sianel gwbl Gymraeg a hollol ddigidol.