Y newid i ddigidol
Mae’r newid i ddigidol yn golygu y caiff y signal teledu analog traddodiadol ei ddiffodd, ac yn ei le bydd signal digidol.
Bydd digidol yn rhoi mwy o sianeli i chi, ansawdd llun gwell a gwasanaethau ychwanegol, fel gorsafoedd radio neu siopa gartre.
Mae digidol gan lawer o bobl yn barod gan bod ganddynt deledu lloeren, cebl neu Freeview. Mae eraill yn dibynnu ar y signal analog drwy’r erial deledu arferol a dim ond yn derbyn pedair neu bump sianel.
Mae rhai cartrefi, hyd yn oed, sy’n derbyn teledu digidol ar eu prif deledu yn aml yn dal i ddefnyddio setiau teledu analog ar eu setiau teledu eraill.
Y newyddion da yw y bydd y signalau digidol, yn y dyfodol, yn dod drwy’r erial arferol.
Gwnewch yn siwr fod pob un o’ch setiau teledu yn barod ar gyfer y newid, nid eich prif set yn unig. Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 004, Virgin TV 167 a Freesat 104 yng Nghymru. Mae S4C ar gael ar Sky 134 a Freesat 120 y tu allan i Gymru.
Ewch i
cwestiwn ac ateb i ddarganfod mwy.
Mae digwyddiadau Ymlaen a'r sioe wedi dod i ben. Mae S4C yn sianel gwbl Gymraeg a hollol ddigidol.