Neidio at y cynnwys

S4C
Paratowch ar gyfer y newid i ddigidol
Y Newid i DdigidolspacerDigwyddiadau 
Ymlaen â’r Sioe spacerArchebwch weithdy sgiliau syrcasspacerCyflwynwyr
   

Newid mawr y byd teledu

Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed am y newid i ddigidol, sy'n effeithio ar y system deledu drwy'r Deyrnas Unedig. Bydd y signal teledu analog traddodiadol yn cael ei ddiffodd, ac yn ei le bydd signal teledu digidol newydd a chryfach.

Dechreuodd y newid i ddigidol yng Nghymru ym mis Awst.  Ar 9 Medi bu’n rhaid i bawb a oedd yn defnyddio gwasanaeth Freeview (neu BT Vision neu Top Up TV) ail-diwnio eu bocs (neu deledu) er mwyn parhau i wylio S4C.  Os nad ydych eisoes wedi ail-diwnio, dyw hi ddim yn rhy hwyr.

Gwybodaeth am ail-diwnio eich cyfarpar Freeview

Dros y misoedd nesaf bydd S4C yn cydweithio â Digital UK, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am weithredu'r newid, er mwyn egluro sut fydd y newid yn effeithio ar bawb. Byddwn yn ymweld â chymunedau ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod sut i barhau i wylio S4C ar ôl y newid.

Ry'n ni wedi paratoi'r cwestiynau ac atebion canlynol i egluro mwy am y newid. Am fanylion pellach, ewch i wefan Digital UK, neu ffoniwch linell Gymraeg Digital UK* ar 08458 484848. Mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C* ar 0870 600 4141 hefyd.

Pam fod y DU yn newid i ddigidol?

Mae teledu digidol yn defnyddio llai o donfeddi darlledu na theledu analog, y ffordd draddodiadol o wylio. Mae hyn yn golygu bod mwy o ddewis o sianeli, a bod ansawdd y llun yn well. Mae'n bosibl cael elfennau ychwanegol drwy'r teledu hefyd, gan gynnwys sianeli radio.

Ar hyn o bryd, mae rhai cartrefi'n derbyn gwasanaethau digidol tra bod eraill yn derbyn pedair neu bum sianel yn unig, drwy deledu analog. Mae'r newid i ddigidol yn sicrhau bod teledu digidol ar gael trwy erial (yn ogystal ag ar lwyfannau eraill) i'r rhan fwyaf o gartrefi.

Ar bwy mae'r newid yn effeithio?

Yn syml, pawb sy'n dal i wylio teledu trwy erial - ac sydd eisiau parhau i wylio.

I wylio S4C ar ôl y newid bydd angen sicrhau bod gennych yr offer cywir. Yng Nghymru, bydd offer Sky neu Freesat neu focs Freeview, Virgin neu BT Vision - neu set deledu bwrpasol - yn eich galluogi i wylio. Y tu allan i Gymru, bydd S4C ar gael drwy deledu Sky neu Freesat.

Os ydych yn gwylio S4C ar Freeview yng Nghymru dylech fod wedi ail-diwnio eich bocs (neu deledu) ar 9 Medi er mwyn parhau i wylio S4C. Bydd angen ail-diwnio unwaith eto pan fydd eich trosglwyddydd lleol yn newid i ddigidol.

Oes angen i mi brynu teledu newydd?

Na, er ei bod hi'n bosibl i brynu teledu sy'n gallu derbyn signal digidol, does dim rhaid i chi brynu teledu newydd o angenrheidrwydd.

Yn hytrach, mae'n bosibl prynu offer sy'n galluogi eich teledu presennol - hyd yn oed os yw'n deledu du a gwyn - i dderbyn signal teledu digidol. Gallwch brynu offer digidol lloeren (Sky neu Freesat), system gebl (Virgin), bocs Freeview neu fand llydan (BT Vision) i dderbyn teledu digidol.

Mae'r rhan fwyaf o focsys digidol yn gallu cael eu cysylltu i deledu gyda chebl SCART. Os nad oes soced SCART ar eich teledu, yna fe fydd yn rhaid i chi ofyn am focs digidol gydag 'RF modulator' yn gynwysedig.

Beth mae hyn yn ei olygu i S4C?

Ar ôl y newid, bydd S4C yn sianel Gymraeg ar wahân. Bydd gwasanaeth analog S4C, sy'n darlledu rhaglenni Saesneg Channel 4, yn dod i ben, oherwydd bydd Channel 4 ar gael ar wahân yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad cyffrous. Bydd eich holl ffefrynnau, gan gynnwys Wedi 7, Pobol y Cwm, Cefn Gwlad, Newyddion a Dechrau Canu Dechrau Canmol ar gael o hyd, yn ogystal â rhaglenni newydd, gwasanaeth meithrin Cyw a darllediadau cynhwysfawr o brif ddigwyddiadau Cymru.

Pryd fydd y newid i ddigidol yn digwydd?

Mae trosglwyddydd Mynydd Cilfái yn ardal Abertawe, Preseli, sy'n gwasanaethu de orllewin Cymru, a Carmel, sy'n gwasanaethu rhannau o dde a chanolbarth Cymru eisoes wedi newid i ddigidol.

Bydd y gogledd a rhannau o'r canolbarth a'r dwyrain yn newid ym mis Hydref a Thachwedd 2009, gyda chanolbarth Cymru, Caerdydd a de ddwyrain Cymru yn newid yn Chwefror a Mawrth 2010.

Ewch i wefan Digital UK a defnyddiwch y gwirydd côd post i ddarganfod pryd yn union byddwch chi'n newid.

Sut mae cael cymorth?

Mae'r holl wybodaeth am y newid yn eich ardal chi ar gael ar wefan Digital UK. Mae gan Digital UK linell wybodaeth Gymraeg* hefyd: 08458 484848. Mae Gwifren Gwylwyr S4C* ar gael i ateb eich cwestiynau - ffoniwch 0870 6004141. Yn ystod y misoedd nesaf bydd gweithgareddau yn eich ardal chi i dynnu sylw at y newid ac i'ch atgoffa o'r hyn sydd angen i chi wneud.

Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn, wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy, wedi eich cofrestru'n ddall neu rannol ddall, neu’n naill ai'n derbyn neu'n gymwys i dderbyn rhai buddiannau anabledd, cysylltwch â’r Cynllun Cymorth am gyngor. Ffoniwch y cynllun ar 0800 4085904 neu ewch i helpscheme.co.uk am fwy o fanylion.

Gwybodaeth am ail-diwnio eich cyfarpar Freeview

Darllenwch wybodaeth am y newid yng Nghymru (fersiwn Saesneg yn unig) [1MB]

* Costau galwadau:

Gwifren Gwylwyr - Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT.

Llinell Gymorth Digital UK - Mae galwadau ffôn BT yn costio 2c y funud yn ystod y dydd a 0.5c y funud gyda'r nos (gyda chost cysylltu ychwanegol o 6c gan BT). Bydd cost galwadau cwmniau eraill, gan gynnwys cwmniau ffôn symudol, yn amrywio.

Gellir ffonio Cynllun Cymorth Digital UK yn rhad ac am ddim.

spacer

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales