Neidio at y cynnwys

S4C
Paratowch ar gyfer y newid i ddigidol
Y Newid i DdigidolspacerDigwyddiadau 
Ymlaen â’r Sioe spacerArchebwch weithdy sgiliau syrcasspacerCyflwynwyr
   

Freeview


Ble bynnag y byddwch yng Nghymru, os ydych yn gwylio S4C ar wasanaeth Freeview, dylech fod wedi ail-diwnio eich bocs ar 9 Medi.  Os na wnaethoch ail-diwnio a’ch bod wedi colli S4C mae’n dal yn bosib i chi ail-diwnio.

Bydd angen i chi ail-diwnio eto, pan fydd eich trosglwyddydd lleol yn newid i ddigidol.  Peidiwch a phoeni, fe gewch eich hatgoffa'n gyson.

Sut mae ail-diwnio teledu neu focs Freeview?
- Pwyswch 'menu' ar eich teclyn rheoli
- Dewiswch 'set up' neu 'installation'
- Dewiswch 'first time installation' (weithiau fe'i gelwir yn 'factory
reset', 'full retune' neu 'default settings')
- Pwyswch 'OK' pan ofynnir i chi a ydych am 'delete all channels'
- Peidiwch â phoeni, bydd y sianeli yn cael eu gosod yn awtomatig. Gyda llaw, gall hyn gymryd rhai munudau

I wylio fideo yn dangos sut i wneud hyn ewch i www.digitaluk.co.uk neu ffoniwch 08458 48 48 48.

Galwch Gwifren Gwylwyr S4C* am fwy o wybodaeth ar 0870 600 4141

Watch the Freeview promo

Llinell gymorth Digital UK: Codir 2c y funud a 0.5c y funud gyda'r hwyr (a thâl cysylltu BT o 6c). Gall cyfraddau darparwyr eraill amrywio.

 

spacer

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales