Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed am y newid i ddigidol, sy'n effeithio ar y system deledu drwy'r Deyrnas Unedig. Bydd y signal teledu analog traddodiadol yn cael ei ddiffodd, ac yn ei le bydd signal teledu digidol newydd a chryfach.
Bydd y newid i ddigidol yn dechrau yma yng Nghymru ym mis Awst. Hefyd, ar 9 Medi, bydd angen i bawb sy'n gwylio S4C ar wasanaethau Freeview (neu BT Vision neu Top Up TV) ail-diwnio eu bocs (neu deledu) er mwyn parhau i wylio'r sianel. Os nad wnewch chi ail-diwnio, fe fyddwch chi'n colli S4C.
Gwybodaeth am ail-diwnio eich cyfarpar Freeview
Dros y misoedd nesaf bydd S4C yn cydweithio â Digital UK, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am weithredu'r newid, er mwyn egluro sut fydd y newid yn effeithio ar bawb. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ym mhob cwr o'r wlad er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod sut i barhau i wylio S4C ar ôl y newid.
Ry'n ni wedi paratoi'r cwestiynau ac atebion canlynol i egluro mwy am y newid. Am fanylion pellach, ewch i wefan Digital UK, neu ffoniwch linell Gymraeg Digital UK* ar 08458 484848. Mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C* ar 0870 6004141 hefyd.
Mae teledu digidol yn defnyddio llai o donfeddi darlledu na theledu analog, y ffordd draddodiadol o wylio. Mae hyn yn golygu bod mwy o ddewis o sianeli, a bod ansawdd y llun yn well. Mae'n bosibl cael elfennau ychwanegol drwy'r teledu hefyd, gan gynnwys sianeli radio.
Ar hyn o bryd, mae rhai cartrefi'n derbyn gwasanaethau digidol tra bod eraill yn derbyn pedair neu bum sianel yn unig, drwy deledu analog. Mae'r newid i ddigidol yn sicrhau bod teledu digidol ar gael trwy erial (yn ogystal ag ar lwyfannau eraill) i'r rhan fwyaf o gartrefi.
Yn syml, pawb sy'n dal i wylio teledu trwy erial - ac sydd eisiau parhau i wylio.
I wylio S4C ar ôl y newid bydd angen sicrhau bod gennych yr offer cywir. Yng Nghymru, bydd offer Sky neu Freesat neu focs Freeview, Virgin neu BT Vision - neu set deledu bwrpasol - yn eich galluogi i wylio. Y tu allan i Gymru, bydd S4C ar gael drwy deledu Sky neu Freesat.
Ym mis Awst bydd angen ail-diwnio eich offer (neu deledu) i gael dewis iaith y sylwebaeth ar arlwy chwaraeon S4C.
Os ydych yn gwylio S4C ar Freeview yng Nghymru, ar 9 Medi bydd angen ail-diwnio eich bocs (neu deledu) er mwyn parhau i wylio S4C. Bydd angen ail-diwnio unwaith eto pan fydd eich trosglwyddydd lleol yn newid i ddigidol.
Na, er ei bod hi'n bosibl i brynu teledu sy'n gallu derbyn signal digidol, does dim rhaid i chi brynu teledu newydd o angenrheidrwydd.
Yn hytrach, mae'n bosibl prynu offer sy'n galluogi eich teledu presennol - hyd yn oed os yw'n deledu du a gwyn - i dderbyn signal teledu digidol. Gallwch brynu offer digidol lloeren (Sky neu Freesat), system gebl (Virgin), bocs Freeview neu fand llydan (BT Vision) i dderbyn teledu digidol.
Mae'r rhan fwyaf o focsys digidol yn gallu cael eu cysylltu i deledu gyda chebl SCART. Os nad oes soced SCART ar eich teledu, yna fe fydd yn rhaid i chi ofyn am focs digidol gydag 'RF modulator' yn gynwysedig.
Ar ôl y newid, bydd S4C yn sianel Gymraeg ar wahân. Bydd gwasanaeth analog S4C, sy'n darlledu rhaglenni Saesneg Channel 4, yn dod i ben, oherwydd bydd Channel 4 ar gael ar wahân yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad cyffrous. Bydd eich holl ffefrynnau, gan gynnwys Wedi 7, Pobol y Cwm, Cefn Gwlad, Newyddion a Dechrau Canu Dechrau Canmol ar gael o hyd, yn ogystal â rhaglenni newydd, gwasanaeth meithrin Cyw a darllediadau cynhwysfawr o brif ddigwyddiadau Cymru.
Mae'r newid yn cael ei gyflwyno yn raddol, o ranbarth i ranbarth, a gorllewin Cymru yw'r cyntaf i newid. Bydd trosglwyddydd Mynydd Cilfái yn ardal Abertawe, Preseli, sy'n gwasanaethu de orllewin Cymru, a Carmel, sy'n gwasanaethu rhannau o dde a chanolbarth Cymru, yn newid yn ystod mis Awst a Medi.
Bydd y gogledd a rhannau o'r canolbarth a'r dwyrain yn newid ym mis Hydref a Thachwedd 2009, gyda chanolbarth Cymru, Caerdydd a de ddwyrain Cymru yn newid yn Chwefror a Mawrth 2010.
Ewch i wefan Digital UK a defnyddiwch y gwirydd côd post i ddarganfod pryd yn union byddwch chi'n newid.
Mae'r holl wybodaeth am y newid yn eich ardal chi ar gael ar wefan Digital UK. Mae gan Digital UK linell wybodaeth Gymraeg* hefyd: 08458 484848. Mae Gwifren Gwylwyr S4C* ar gael i ateb eich cwestiynau - ffoniwch 0870 6004141. Yn ystod y misoedd nesaf bydd gweithgareddau yn eich ardal chi i dynnu sylw at y newid ac i'ch atgoffa o'r hyn sydd angen i chi wneud.
Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn, wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy, wedi eich cofrestru'n ddall neu rannol ddall, a naill ai'n derbyn neu'n gymwys i dderbyn rhai buddiannau anabledd, cysylltwch â Chynllun Cymorth y Newid i Ddigidol am gyngor. Ffoniwch y cynllun ar 0800 4085900 neu ewch i helpscheme.co.uk am fwy o fanylion.
Gwybodaeth am ail-diwnio eich cyfarpar Freeview
* Costau galwadau:
Gwifren Gwylwyr - Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT.
Llinell Gymorth Digital UK - Mae galwadau ffôn BT yn costio 2c y funud yn ystod y dydd a 0.5c y funud gyda'r nos (gyda chost cysylltu ychwanegol o 6c gan BT). Bydd cost galwadau cwmniau eraill, gan gynnwys cwmniau ffôn symudol, yn amrywio.
Gellir ffonio Cynllun Cymorth Digital UK yn rhad ac am ddim.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales