Mae sioe deithiol S4C Ymlaen â'r Sioe wedi bod yn ymweld â chymunedau ledled Cymru ers mis Medi 2009. Bydd y sioeau teithiol yn parhau tan fis Mawrth 2010 pan fydd y trosglwyddydd olaf yn newid i ddigidol.
Mae'r sioe yn arddangosfa gyffrous gan berfformwyr y syrcas gyfoes NoFit State Circus ac yn cael ei chyflwyno gan rai o'n cyflwynwyr enwocaf, yn cynnwys Nia Parry, Gareth Roberts, Daloni Metcalfe, Dudley Newbery, Morgan Jones, Angharad Mair, Sarra Elgan a Tudur Owen.
Bydd y sioe yn diddanu pobl o bob oed tra'n helpu i gyfathrebu'r neges am fanteision y newid i ddigidol a'r newidiadau i S4C.
Byddwn hefyd yn ymweld â chymunedau i ddosbarthu gwybodaeth ac ateb eich cwestiynau am y newid i ddigidol.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld.| Sadwrn 20 Mawrth | Canolfan Mileniwm Cymru (11.30, 13.15) | |
| Sul 21 Mawrth | Canolfan Siopa McArthur Glen, Penybont (12:00, 14:00) |
| Dyddiad | Lleoliad |
| Iau Mawrth 25 | Abergafenni, Usk, Blaenafon, Pontypŵl |
| Gwener 26 Mawrth | Blaenau Gwent, Caerffili a’r ardal |
| Sadwrn 27 Mawrth | Canol dre Casnewydd a Rodney Parade at gyfer y Dreigiau yn erbyn y Gweilch |
| Sul 28 Mawrth | Merthyr Tydfil – Parc Manwerthu Cyfarthfa |
| Llun 29 Mawrth | Porth / Parc Treftadaeth y Rhondda / Treherbert/ Pontypridd |
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales