dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

ABERAERON

Bydd Dudley yn ymweld â Glyn a Menna Heulyn, perchnogion gwesty a bwyty yn Aberaeron.

Mae gan y dref lan môr yng Ngheredigion draddodiad morwrol cyfoethog. Ar un adeg roedd yn borthladd pwysig ar gyfer adeiladu llongau ac erbyn heddiw, mae'n un o ganolfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru. Wrth edrych o gwmpas yr harbwr, mae un adeilad yn sefyll allan gyda'i liw glas llachar - Gwesty'r Harbwr.

Bedair blynedd yn ôl, rhoddodd Glyn a Menna'r gorau i'w gyrfaoedd llwyddiannus er mwyn gwireddu breuddwyd. "Roedd gennym ni'r awydd i greu rhywle unigryw lle byddai pobl yn dod i aros a bwyta yn yr ardal lle y cawsom ein magu," esbonia Menna.

"Roedd y ddau ohonom wedi teithio dipyn a dod ar draws rhai gwestai a chaffis gwych a relaxed, ond ar y pryd doedd y math yna o le ddim i'w weld yn y Gymru wledig. Daethon ni lan â syniadau wedi'u seilio ar yr hyn roedden ni wedi'u gweld yn Seland Newydd a Ffrainc gan addasu pethau er mwyn creu rhywle sydd, gobeithio, yn fodern a chyda steil, lle gall pobl o bob oed ddod i fwynhau a theimlo'n gartrefol."

Yn ogystal â rhedeg y ty bwyta, mae Glyn a Menna'n rhan o'r tîm sy'n trefnu'r Wyl Bysgod flynyddol a gynhelir eleni ar 10 Gorffennaf. Dros y blynyddoedd, mae Gwyl Bysgod Aberaeron wedi tyfu'n un o uchafbwyntiau'r calendr bwyd yng Nghymru a disgwylir i rai miloedd o bobl heidio i'r dref yr haf yma i weld a blasu'r gorau o fwyd y môr, pysgod a chynnyrch lleol.

"Trefnwyd yr Wyl Bysgod am y tro cyntaf saith mlynedd yn ôl a bellach mae'n mynd o nerth i nerth," esbonia Menna.

"Mae'r digwyddiad yn ddathliad o gynnyrch lleol ffres ar ei orau," ychwanega Dudley. "Dylid llongyfarch Menna, Glyn a gweddill y tîm ar lwyddiant yr Wyl. Mae'n braf gweld gwyliau o'r math yma'n dod yn boblogaidd yng Nghymru."

Hefyd ar raglen nos Iau, bydd Dudley'n ymweld â chynhyrchwyr bwyd lleol sy'n sicrhau bod y llysiau, perlysiau a chig gorau'n cael eu gweini yn nhy bwyta Gwesty'r Harbwr. Mae'r rhain yn cynnwys Wendy a Kath Morris o gwmni Llysiau Organig Tanrallt ger Llanrhystud a'r cigydd Rob Rattray o Aberystwyth.

DUDLEY
bob nos Iau am 9.00 pm gydag isdeitlau Cymraeg
ailddarllediad bob dydd Sul am 3.30pm, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin a gwasanaeth llun-ddisgrifio

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY