dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bangkok picture

DUDLEY YN BANGKOK

Ymweliad y cogydd Dudley Newbery â Bangkok lle mae'n cael blas ar gyfoeth bywyd a bwydydd Gwlad Thai. Fe fydd yn teithio'r wlad yng nghwmni Tamsin Ramasut, sydd o dras Thai a Chymreig, ac yn clywed hanes carwriaeth ramantus ei rhieni a gyfarfu yng Ngwlad Thai yn y 60au.

DUDLEY’N CAEL BLAS AR FYWYD GWLAD THAI

Ynghynt yr haf hwn, aeth DUDLEY NEWBERY yng nghwmni TAMSIN RAMASUT i brifddinas Gwlad Thai, Bangkok i ddarganfod mwy am fywyd a bwydydd y wlad ffrwythlon yn Asia.

Mae stori’r daith i Wlad Thai yn cychwyn yn ôl yng Nghaerdydd ym mwyty’r Thai House, sy’n eiddo i Noi Ramasut a;i wraig Arlene. Gwr busnes o Wlad Thai yw Noi ac fe gyfarfu ag Arlene yn Bangkok yn y 60au pan oedd y Gymraes o Fynydd Cynffig yn teithio’r byd. Fe ddaethant yn ffrindiau, yna’n gariadon, gan briodi yno cyn penderfynu symud i Gymru a magu eu tri o blant yn Gymry Cymraeg er nad yw Noi nag Arlene yn siarad yr iaith.

Agorodd y cwpwl fwyty’r Thai House ym 1985, a hwn oedd y bwyty Thai cyntaf y tu allan i Lundain yng Ngwledydd Prydain. Roeddent ar flaen y gad, mae cannoedd o fwyty Thai bellach ac mae bwyd Thai â chydnabyddiaeth fyd-eang. Un a fu’n garwr, awr o fwyd Thai ac yn edmygydd o’r Thai House ers blynyddoedd ydy Dudley Newbery, a phan gafodd y cynhyrchwyr Teledu Opus y syniad o wneud rhaglen allan yng Ngwlad Thai, trodd Dudley at y Ramasuts am arweiniad. Merch hynaf y teulu, TAMSIN RAMASUT ddaeth i’r fei i arwain Dudley ar ei daith a’i gyflwyno i’w’ theulu, ffrindiau a rhyfeddodau’r brifddinas.

pictures of dudley in Bangkok

Yr hyn nad oedd Dudley yn sylweddoli cyn mynd yno oedd cymaint ydy’r pwyslais yno ar fwyd ac ar fwyta; mae’n ffordd o fyw iddyn nhw. Lle bynnag yr aeth y criw – i’r aduniad teuluol, y deml, y cwrs golff, yr ornest focsio Thai, y marchnadoedd a’r caeau reis– roedd bwyd yn ganolog i’r cyfan.

"Y peth cyntaf y sylwais pan es i yno oedd bod pawb yn gwenu, Ni chymerodd e’n hir i ddeall pam – y bwyd sy’n gwneud pobl yn hapus.. Gyda chymaint o fwyd on amgylch roeddwn i hyd yn oed yn gwenu cyn diwedd y dydd! Mae pawb yn mwynhau eu bwyd ac mae’n chwarae rhan bwysig yn eu bywydau," meddai Dudley.

"Dwi erioed wedi gweld y fath liw a’r fath amrywiaeth o fwydydd ffres. Lle bynnag yr es i, roedd bwyd ffres,ffrwythau, prydau nwdls, satay, cyris, prydau llysieuol ar gael, a phob lliw a blas y gallwch chi eu dychmygu."

Mae Tamsin wedi bod yng Ngwlad Thai nifer o weithiau o’r blaen ac wedi gweithio yno am gyfnod. Mae hi, ei chwaer, Catrin. 26, sy’n actio a chyflwyno, a’i brawd, Tom, 24, sy’n beldroediwr proffesiynol gyda thîm Y Barri, yn cyfri eu hunain yn Gymry yn bennaf. Ond roedd yn ddifyr i’r ferch o Gaerdydd i weld hen wlad ei thadau trwy lygaid Cymreig pobl eraill.

"Rwy’n cymryd fy nhreftadaeth Thai yn ganiataol i raddau, ond mae natur a gwerthoedd pobl Thai yn rhan o’n cymeriad ni fel plant hefyd. Fe ddes i werthfawrogi fy nhreftadaeth hyd yn oed yn fwy trwy fynd gyda Dudley a chriw Opus," meddai Tamsin, sy’n byw yn Llundain ac a’i bryd ar fod yn gynllunydd trefol.

Ac ychwanegodd: "Roeddwn i’n gallu gweld y tebygrwydd rhwng y Cymry a phobl Thai – mae’r ddwy bobl yn groesawgar a chynnes iawn. Roedd yn wych gweld Dudley a chriw Teledu Opus yn tynnu ymlaen gyda fy mam-gu, y teulu a’n ffrindiau. Ac wrth gwrs roedd y bwyd yn help mawr hefyd…"
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY