dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bangkok picture

DUDLEY YN BANGKOK

Ymweliad y cogydd Dudley Newbery â Bangkok lle mae'n cael blas ar gyfoeth bywyd a bwydydd Gwlad Thai. Fe fydd yn teithio'r wlad yng nghwmni Tamsin Ramasut, sydd o dras Thai a Chymreig, ac yn clywed hanes carwriaeth ramantus ei rhieni a gyfarfu yng Ngwlad Thai yn y 60au.

HANES COGINIO GWLAD THAI

Lleolir Gwlad Thai yn Ne-Dwyrain Asia, ac nid yw yn wlad fawr na chwaith yn gyfoethog yn ariannol, ond mae ganddi naws unigryw i’w bywyd sy’n cymysgu arferion hynafol gyda ffyrdd y byd modern.
Hyd at ganol yr 20fed Ganrif, nid oedd bwyd arbennig Thai yn adnabyddus iawn y tu-allan i’r wlad ei hunan. Fel ei diwylliant, mae dull coginio Thai yn ddyledus iawn i’w chymdogion a’i chyfeillion yn Tsieina, India, ac hyd yn oed Ewrop, tra ar yr un pryd mae’n cadw cymeriad unigryw y bwydydd brodorol.

pictures of dudley in Bangkok

Ystyr y gair thai yw 'rhydd', sy'n golygu fod Thailand yn cyfieithu'n llythrennol fel 'Gwlad y Rhyddion'.

Mae gwlad Thai yn enwog am ei chyflenwad digonol o fwydydd y môr, cnau coco, ffrwythau trofannol, reis, tapioca, siwgr gwiail, madarch a bananas.

Y disgrifiad arferol o ryseitiau Thai yw eu bod yn boeth a sbeislyd, ond y gwir yw bod y cyfuniad o ddylanwadau'r Dwyrain â'r Gorllewin yn creu cytgord oddi fewn i'r prydoedd, byddent yn boeth neu yn gymharol fwyn.

Gwahaniaetha bwydydd Thai yn ôl rhanbarthau'r wlad:

Ond mae bwydydd y Gogledd-Ddwyrain yn grasboeth.

Ceir mwy o fwydydd y mor yn rhanbarthau'r De.

MaeÍr cymunedau Mwslemaidd yn rhanbarthau pellenig y De yn hoffi eu cyrris, a bwydydd sy'n tueddu bod yn drwm a chyfoethog, yn siarp ac yn ddwys, ac yn llawn sbeisys poeth.

Yn y Gogledd, ceir bwydydd mwy anghyffredin a hynod. Yno ceir danteithion megis pryfed, ymenydd moch, nadrodd, malwod, brogaod a barbeciw o lygod ffrenig.

Yn wreiddiol, roedd dulliau traddodiadol o goginio Gwlad Thai yn golygu berwi, stemio ynteu ridyllio

Doedd y wlad ddim yn agored i farchnata ä gwledydd eraill tan y cyfnod 1350-1767 - cyfnod y maent yn ei adnabod fel cyfnod Ayuthaya. Dyma pryd ddechreuodd dylanwadau allanol effeithio ar goginio Thai.

Fe ehangodd y TsieinÔaid y dewis o offer a oedd ar gael i'r bobl Thai - trwy gyflwyno'r wok, y sosban stemio bambw a'r gweill bwyta, i roi tair enghraifft. Fel canlyniad, fe estynnwyd ar ddulliau coginio bwydydd Thai.

Yn wir, y TsieinÔaid a gyflwynodd ddulliau tro-ffrio a ffrio dwfn i Wlad Thai.

Mewn blynyddoedd diweddarach, fel canlyniad i ddylanwad y Gorllewin, dechreuwyd pobi.

O tua 1600 ymlaen, daeth mwy o ddylanwad ar goginio Thai oddi wrth ymwelwyr o Bortiwgal, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Lloegr, Arabia, India, a Siapan.


pictures of dudley in Bangkok

Tua ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, cyflwynwyd tshili i goginio gwlad Thai am y tro cyntaf, gan genhadon o Bortiwgal a oedd wedi cael blas arnynt yn Ne America.

MaeÍn ddiddorol mai gwraig i ddiplomydd a gyflwynodd gwstard iÍr wlad, tra bod technegau o goginio gyda physgnau wedi eu cyflwyno gan Arabiaid.

Mae traddodiad hir yng ngoginio Thai syÍn ymwneud ä pharatoadau ysblennydd a llafurfawr - dull a elwir yn "fwydydd y palas", ac a astudir fel celfyddyd. Fe grÔir prydoedd cymhleth, yn cael eu harddu gydag addurniadau o flodau, a llysiau a ffrwythau wedi eu cerfioÍn gywrain.

Ochr arall y geiniog ywÍr coginio traddodiadol mewn cartref Thai Æ syml, digonol a blasus.

Dywed pobl Thai y dylai bwyd nid yn unig flasuÍn dda, ond hefyd edrych yn ddeniadol a bod yn dda iÍch iechyd.

Felly mae pobl Thai yn fwytawyr o fri Æ nid yn gymaint yn faint a fwytir, ond yn y ffordd y maent yn mwynhau eu bwyd gan werthfawrogiÍr blasau gwahanol aÍr cyfuniad cyfareddol o fwydydd.

Fel dull coginio y rhan fwyaf o Asia, y mae coginio Thai yn ïtafluÍr cynnwys ynghydÍ gan osgoi yn llwyr gynlluniau haearnaidd a gadael cyfle i greadigedd y cogydd.

Fforc a llwy a ddefnyddiaÍr Thai i fwyta, gan ddal y fforc yn y llaw chwith i wthioÍr bwyd ar y llwy yn y llaw dde.

Ystyrir gorlenwiÍr ceg yn anfoesgar, ac felly dylid llenwi pob llwy yn gymedrol i gwrdd ä gofynion yr arfer.

Ni ddylid clywed swn yr offer bwyta yn crafuÍr plät, ac ni ddylid gweld gronyn o reis yn aros ar y wefus.

Yn hytrach na chynnig un cwrs ar y tro, cyflwynir y cyfan ar yr un pryd mewn cinio Thai, gan adael y bwytwr i fwynhau cyfuniad gwahanol o flasau cyfatebol.

Y mae pryd o fwyd go iawn yn cynnwys cawl, cyrri, reis wedi ei stemio a dip i gydfynd aÍr llysiau. Weithiau cynigir salad sbeislyd yn lleÍr curry. Os ywÍr cawl yn sbeislyd, yna bwydydd heb sbeis fyddaiÍn cymryd lleÍr cyrri.

Daw nodwedd sylfaenol bwyd Thai oÍr cyfuniad o halen, pibyr, garlleg a coriander a ddyrnir at ei gilydd..

Y mae rhinweddau sawrus bwydydd Thai yn hanu oÍr cyfuniad a wneir o nifer fawr o lysiau, sbeis (perlys), dail, gwraidd ac hyd yn oed blodau. Mae rhain yn cynnwys gwair lemon, dail leim a phob math o tshili.

Y mae cnau coco yn rhan hanfodol o goginio gwlad Thai. Defnyddir ei laeth a’i hufen.
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY