dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

DUDLEY YN EWSCADI

Yn y rhaglen arbennig hon, bydd Dudley'n profi bwyd a diwylliant Gwlad y Basgiaid yng nghwmni Arthur Dafis o Landre, ger Aberystwyth, a'i wraig, Carolina Sagarmendi o San Sebastian yng ngogledd Sbaen. Bydd Dudley'n teithio i ardal febyd Carolina er mwyn profi bwyd y môr ffres, cig o'r safon uchaf a'r traddodiadau croesawgar sy'n golygu bod bwydlenni'r ardal yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn Ewrop.

GWLAD Y BASG

  • Mae Gwlad y Basg, Sbaen, neu Euskadi, yn un o’r rhannau mwyaf unigryw yn Ewrop, a’r byd a dweud y gwir, ond yn debyg i Gymru mewn sawl ffordd. Un tebygrwydd yw’r mynyddoedd godidog ond mae’r ffaith eu bod yn siarad eu hiaith frodorol o fewn gwlad ehangach yn dreftadaeth debyg i’n treftadaeth ni.
  • Mae iaith y Basgiaid, Euskera, yn iaith leiafrifol iawn gyda’r Sbaeneg yn rheoli popeth, sy’n debyg iawn i sefyllfa'r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru a Phrydain. Gyda’r Gymraeg, Euskera yw un o’r ieithoedd hynaf sy’n dal i gael eu siarad yn Ewrop.
  • Mae gwlad y Basg ei hun yn cynnwys Vizcaya (Bilbao), Guipuzcoa (San Sebastian), Alava (Vitoria) a Navarre (Pamplona). Yn gartref i ddiwylliant cyfoethog sy’n ganrifoedd oed ac yn dyddio yn ôl i ddechrau gwareiddiad yn Ewrop, mae gwlad y Basg yn rhanbarth o dir garw sy’n ymestyn ar hyd Bae Biscay yn ardal Mynyddoedd y Pyranees.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY