dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

DUDLEY YN EWSCADI

Yn y rhaglen arbennig hon, bydd Dudley'n profi bwyd a diwylliant Gwlad y Basgiaid yng nghwmni Arthur Dafis o Landre, ger Aberystwyth, a'i wraig, Carolina Sagarmendi o San Sebastian yng ngogledd Sbaen. Bydd Dudley'n teithio i ardal febyd Carolina er mwyn profi bwyd y môr ffres, cig o'r safon uchaf a'r traddodiadau croesawgar sy'n golygu bod bwydlenni'r ardal yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn Ewrop.

BWYD GWLAD Y BASG

  • Efallai mai bwyd yw’r elfen fwyaf canolog ym mywyd bob dydd pobl Gwlad y Basg. Trosglwyddwyd ryseitiau o genhedlaeth i genhedlaeth mewn cymdeithas lle mae’r g_r a’r wraig yn mwynhau coginio. Mae bwyd a bwyta yn brif destun sgwrs i’r bobl ac yn wir, mae gan y Basgiaid hen ddihareb sy’n dweud : "O wybod sut i fwyta byddwch yn gwybod digon "
  • Fel ar holl Benrhyn Iberia, cinio yw pryd mwyaf sylweddol y dydd yng ngwlad y Basg. Nid yw’r pryd ei hun yn cael ei weini tan ddechrau’r prynhawn ac mae’n cael ei weld fel achlysur cymdeithasol pwysig lle mae teulu a ffrindiau yn dod ynghyd i fwynhau bwyd a chwmni da.
  • Mae pobl gwlad y Basg yn rhoi llawer o barch i’w bwyd ac yn ymfalchïo yn eu cynnyrch ffres a ddaw o’r tir a’r môr. Mae mamau’n trosglwyddo ryseitiau i’w merched tra bod y dynion yn cyfarfod mewn clybiau cinio o’r enw txokos (hefyd yn cael eu galw’n sociedades) i arddangos eu sgiliau coginio.
  • Dechreuodd y syniad hwn o gyfarfod i goginio, bwyta, yfed a sgwrsio yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn San Sebastian yn unig mae yna dros 300 o’r clybiau hyn i’w cael heddiw. Mae cael eich gwahodd i achlysur o’r fath yn anrhydedd fawr ac yn brofiad i’w drysori – ddylech chi byth golli’r cyfle pe byddech chi’n ddigon ffodus o gael gwahoddiad.
  • Mae Sbaen yn enwog am ddiwylliant bwyd tapas (pintxos) ac mae’n bosib gweld yr arfer hwn ar ei orau yng ngwlad y Basg. Mae’r bobl yno yn cyfarfod bron bob dydd i gymdeithasu, cyfarfod â ffrindiau a chrwydro o far i far yn profi gwahanol fathau o pintxos. Mae gan ardaloedd traddodiadol fel hen dref Donostia-San Sebastian strydoedd yn llawn bariau tapas sy’n golygu fod yno ddigon o fwyd i bawb!
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY