
DUDLEY YN EWSCADI
Yn y rhaglen arbennig hon, bydd Dudley'n profi bwyd a diwylliant Gwlad y Basgiaid yng nghwmni Arthur Dafis o Landre, ger Aberystwyth, a'i wraig, Carolina Sagarmendi o San Sebastian yng ngogledd Sbaen. Bydd Dudley'n teithio i ardal febyd Carolina er mwyn profi bwyd y môr ffres, cig o'r safon uchaf a'r traddodiadau croesawgar sy'n golygu bod bwydlenni'r ardal yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn Ewrop.
DIOD
- Fel mae ffermio a physgota yn agweddau pwysig ar economi gwlad y Basg, felly hefyd mae’r bariau ar hyd a lled y wlad. Mae’r Basgiaid yn hoff iawn o’u gwin ac nid oes dim yn well na glasiaid o win gyda’r seigiau amrywiol sydd i’w cael yn y gwahanol fariau.
- O ganlyniad, mae gwin yn ddiod nodweddiadol ymhlith y Basgiaid sy’n mynd yn dda iawn gyda tapas. Mae de gwlad y Basg yn fyd-enwog am gynhyrchu’r gwin Rioja gorau yn y byd. Mae’r rhanbarth cyfan yn enwog am ei amrywiaeth o winoedd coch, sy’n cael eu gwneud o rawnwin tempranillo fel rheol.
- Aperitif poblogaidd yng ngwlad y Basg yw txakoli, gwin gwyn ifanc, ysgafn ac aromatig. Mae’n cael ei gynhyrchu yn yr ardaloedd o gwmpas Getaria, Zarautz ac ar y ffin ac yn mynd yn dda gyda physgod a mathau eraill o fwyd môr.
- Mae yna hen draddodiad o yfed seidr ymysg pobl gwlad y Basg gyda thai seidr yn dal yn boblogaidd mewn pentrefi ledled y wlad. Er bod seidr yn cael ei yfed gydol y flwyddyn, dim ond o ddiwedd Ionawr (yn dilyn g_yl San Sebastian) tan ddiwedd mis Ebrill mae’r tai seidr ar agor i’r cyhoedd.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
