
DUDLEY YN EWSCADI
Yn y rhaglen arbennig hon, bydd Dudley'n profi bwyd a diwylliant Gwlad y Basgiaid yng nghwmni Arthur Dafis o Landre, ger Aberystwyth, a'i wraig, Carolina Sagarmendi o San Sebastian yng ngogledd Sbaen. Bydd Dudley'n teithio i ardal febyd Carolina er mwyn profi bwyd y môr ffres, cig o'r safon uchaf a'r traddodiadau croesawgar sy'n golygu bod bwydlenni'r ardal yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn Ewrop.
BWYD O'R TIR
- Fel gyda bwyd môr, mae pobl gwlad y Basg hapusaf pan fo bwyd yn cael ei weini mor ffres â phosib. Mae’r trigolion yn hoffi steciau mawr, trwchus neu ddarn o gig eidion o’r enw villagodio wedi’i goginio’n amrwd. Yn ogystal, maen nhw’n hoffi cig oen blasus sy’n cael ei ffermio ar fryniau glas ffrwythlon yr ardal - nodwedd arall sy’n debyg i Gymru.
- Mae cig moch a phorc hefyd yn boblogaidd. Mae’n beth cyffredin gweld coesau mochyn yn hongian o nenfwd bariau trwy wlad y Basg a’r Mochyn Du (jamon jabugo) yw’r drutaf ar y farchnad.
- Yn ystod yr hydref mae’r tir yn cynhyrchu madarch gwyllt - perretxikos – a rhywogaethau o helgig bach fel colomennod, cyffylogod a thurturod. Mae’r mwyafrif o seigiau’n cael eu paratoi trwy ddefnyddio cynnyrch lleol o bentrefi bach a dyffrynnoedd sydd ynghudd rhwng y mynyddoedd.
- Mae peth o’r cynnyrch sy’n cael ei gasglu o’r tir yn adlewyrchu traddodiadau morwrol y Basgiaid yn aml. Mewnforiwyd ffa o Dde America ganrifoedd yn ôl ac maen nhw wedi datblygu yn ffefryn mawr. Tyfir y ffa ymysg rhesi o india corn (a fewnforiwyd o’r Byd Newydd hefyd), sef y dull a ddefnyddiwyd gan Indiaid brodorol de America ac a fabwysiadwyd gan forwyr gwlad y Basg.

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
