dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

DUDLEY YN EWSCADI

Yn y rhaglen arbennig hon, bydd Dudley'n profi bwyd a diwylliant Gwlad y Basgiaid yng nghwmni Arthur Dafis o Landre, ger Aberystwyth, a'i wraig, Carolina Sagarmendi o San Sebastian yng ngogledd Sbaen. Bydd Dudley'n teithio i ardal febyd Carolina er mwyn profi bwyd y môr ffres, cig o'r safon uchaf a'r traddodiadau croesawgar sy'n golygu bod bwydlenni'r ardal yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn Ewrop.

BWYD MÔR FFRES

  • Efallai mai’r bwyd mwyaf poblogaidd yng ngwlad y Basg yw bwyd môr. Mae lleoliad daearyddol y wlad wedi sicrhau bod pysgotwyr gwlad y Basg (arraintzale) wedi bod yn ysbeilio’r moroedd ers canrifoedd. Ers y dechrau, mae’r Basgiaid wedi bod yn forwyr o fri ac wedi teithio ymhell i gael y bwyd môr ffres gorau sydd i’w gael.
  • Yn sgil eu tueddiad i bysgota ymhell o gartref yn nyfroedd Cefnfor yr Iwerydd dywedir mai’r Basgiaid oedd y cyntaf o Ewrop i droedio cyfandir America. Roedd morwyr o wlad y Basg ymhlith y cyntaf i deithio i’r Byd Newydd ac, o ganlyniad i fasnachu a mewnforio nwyddau fel tybaco, siocled a siwgr o’r Caribî a De America, daeth dinasoedd gwlad y Basg yn eithaf goludog.
  • Penfras yw hoff bysgodyn y Basgiaid. Yn y gorffennol, roedd penfras yn cael ei fwyta ar y tir mawr i atal newyn ond datblygodd i fod yn ddanteithfwyd, wrth iddo gael ei addasu ar gyfer llawer o ryseitiau gyda phenfras wedi’i halltu yn ffefryn arbennig.
  • A dweud y gwir, mae pobl gwlad y Basg yn hoff o unrhyw beth a ddaw o’r môr. Mae’r gegddu, y bunito, tiwna, merfog coch, crang-gopyn, ystifflog, brwyniad a’r llysywen yn gyffredin mewn bwyd lleol a bob amser yn cael eu cynnwys mewn stiw bwyd môr fel marmitako a zurrukutuna.
  • Mae diwydiant pysgota gwlad y Basg mor gryf fel bod pentref bychan fel Getaria sydd 20km o San Sebastian yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant. Getaria oedd cartref Elcano, y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd yn ôl rhai pobl.
  • Gan mai ychydig o amser sydd rhwng dal y pysgod a’u bwyta nid yw’r Basgiaid yn hoffi ychwanegu llawer o bethau wrth greu pryd o fwyd. Ran amlaf, maen nhw’n credu fod ychydig o arlleg, olew a pharsli yn ddigon. Ond dros y blynyddoedd mae’r Basgiaid wedi datblygu dawn i greu sawsiau a dresins syml i fynd gyda’r prydau bwyd môr. Mae penfras ei hun yn gyfrifol am sawl saws fel pil-pil (garlleg), saws Biscay ac ajoarriero (wyau a garlleg).
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY