
BARBECIW
Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
YNGLYN Â BARBECUES
GWREIDDIAU AMERICANAIDD
- Mae gan yr Americanwyr enw da am eu ffyrdd o goginio barbeciw, ac mae'n sicr mai nhw a sefydlodd y barbeciw fel yr ydym ni'n ei nabod heddiw. Byddai'r llwythi brodorol yn defnyddio rheseli pren syml i sychu pysgod, cig neu adar, neu i'w trin â mwg. Fe welodd y trefedigaethwyr cynharaf y technegau hyn, a'u mabwysiadu.
- Un nodwedd o hanes Gogledd America oedd y 'ranchers', a oedd yn perchen ar rediadau eang o dir, gyda buchesau enfawr o wartheg. Byddai miloedd o anifeiliaid wedi'u gwasgaru dros y tir a byddai angen llawer o ddwylo i gadw trefn arnynt. Byddai'r cyflogwyr yn denu byddin fach o weithwyr gan addo cyflogau da a bwyd da.
- Roedd bywyd ar ransh yn golygu treulio nifer fawr o ddiwrnodau ar gefn ceffyl, gan olygu bod y mwyafrif o'u prydau'n cael eu coginio y tu-allan. Cafodd cogyddion eu cyflogi i fwydo'r gweithwyr ac - ar ôl llawer o arbrofi a oedd yn golygu bod cig eidion yn cael ei droi'n rhywbeth tebyg i ledr - fe welwyd nifer o farbeciwiau ar draws gwastatiroedd enfawr America.
- Mae gwreiddiau'r hyn sy'n adnabyddus i ni heddiw fel barbeciw yn estyn yn ôl i ddyddiau cynnar yr Unol Daleithiau. Pan yn cynnal cyfarfodydd gwleidyddol mawr, byddai anifail cyfan (wedi'i ddiberfeddu a'i lanhau) yn cael ei rostio i fwydo pleidleiswyr, a cheisio ennill eu pleidleisiau. O'r Taleithiau Deheuol fe ddaeth y syniad o goginio mochyn, ac o'r ffaith bod anifeiliaid cyfan yn cael eu coginio y daw'r ymadrodd "to go the whole hog".
- Y barbeciw yw'r ffordd draddodiadol o goginio bwyd yn y De, ac mae nifer o wahaniaethau yn y sawsiau a chigoedd sy'n cael eu defnyddio yn yr hyn sy'n adnabyddus fel y 'barbecue belt'. Mae'r Deheuwyr yn frwdfrydig iawn dros eu barbeciwiau ac yn ddirmygus tuag at ymdrechion pitw trigolion y Gogledd!
| ARDAL | SAWS | CIG |
| Alabama / Mississippi / Arkansas / Oklahoma | Saws tsili neu getshyp trwchus, gyda winwns, garlleg, finegr, melysydd a saws Worcestershire neu saws pupur twym | Cig eidion, porc |
| Califfornia |
a) Tomatos blasus neu salsa b) Melys-a-sur / sudd ffrwythau c) Gwin coch a pherlysiau |
Bwydydd y môr, cyw iâr, cig eidion |
| Fflorida | Saws tomatos â chetshyp, menyn, sudd leim neu limwn a finegr | Bwydydd y môr gan fwyaf |
| Kansas/Missouri | Saws tomatos melys, sbeislyd â molasses a phowdr tsili | Asennau breision, brisged cig eidion, stribedi o borc, asennau porc, asennau cig eidion, cyw iâr, cig oen |
| Kentucky | Cynsail o saws Worcestershire | Cig defaid, porc, cig eidion |
| Louisiana | Saws tomatos trwchus sbeislyd â blasau Creole | Porc, brisged cig eidion |
| Gogledd Carolina | Saws tomatos trwchus sbeislyd â finegr, menyn a saws pupur twym | Porc - yr anifail cyfan neu'r ysgwydd |
| De Carolina/Gogledd-Ddwyrain Carolina | Cynsail o finegr seidr â phupurau coch wedi'u malu | Porc - yr anifail cyfan neu'r ysgwydd |
| Canol Carolina/Georgia | Cynsail o fwstard gyda winwns, cetshyp a finegr | Porc - yr anifail cyfan neu'r ysgwydd |
| Texas/New Mexico |
a) Canol a dwyrain Texas - saws â chynsail o getshyp neu tsilis melys trwchus, gyda saws Worcester, powdr tsili, finegr a siwgr b) Gorllewin Texas a New Mexico - yr un saws ond â tsilis poeth |
Brisged cig eidion heb ei esgyrn, selsig |
| Virginia | Saws trwchus, melys o domatos gyda siwgr a molasses | Porc - yr anifail cyfan neu'r crwper heb esgyrn |
- Sdim syndod felly bod selogion y barbeciw yn clodfori technegau'r Americanwyr. Er bod llawer i ddweud am y barbeciwiau a gynhelir ym Mrasil, De Affrica ac Awstralia, mae ochr ddeheuol yr Unol Daleithiau o hyd yn cael y clod mwyaf. Yn ôl yr ystadegau, mae 3 chartref allan o bob 4 yn America yn cynnal barbeciw o leiaf pum gwaith y mis. Cynhaliwyd y barbeciw mwyaf erioed yn Kansas City ym 1975 pan gafodd 5 tarw eu rhostio dros gyfnod o dridiau.
