dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bbq picture

BARBECIW

Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!

CANLLAWIAU COGINIO BARBECIW


Yn isod mae awgrym am yr amser coginio a'r tymheredd mewnol ar gyfartaledd ar gyfer mathau gwahanol o fwydydd barbeciw. Dim ond canllawiau ydy'r rhein, ond mae'n werth bod yn ymwybodol ohonynt i gael syniad gwell am bryd bydd y bwyd yn barod.

BWYD AMSER TYMHERYDD MEWNOL Y CIG
Cyw Iâr 10 - 15 munud 78°C - 80°C
Selsig 8 - 10 munud 78°C
Byrgers 8 - 10 munud 78°C
Stêcs 8 - 12 munud 66°C (eithaf gwaedlyd) - 83°C (wedi'u coginio'n dda)
Golwythion Porc 10 - 15 munud 78°C
Pysgod 6 - 8 munud 54°C - 57°C

Cofiwch!

  • I gael y canlyniadau gorau mae'n rhaid i dymheredd y barbeciw fod aros yn rheolaidd

  • Os oes gennych glawr ar y barbeciw, bydd y tymheredd yn cwympo bob tro mae'n cael ei agor.

  • Dylech dim ond agor y clawr os oes rhaid - hynny yw, er mwyn ychwanegu sercol, ireiddio'r cig, troi'r bwyd neu archwilio'r tymheredd. Dylech wrthsefyll y demtasiwn i gael golwg sydyn!

  • Ni fydd cig sy'n llosgi'n gyflym ar y tu allan yn coginio'n iawn ar y tu-fewn. Os ydi hyn yn digwydd, symudwch y cig allan tua ymylon y gril. Os ydi'n golosgi, ceisiwch ei roi mewn ffoil, a fydd yn helpu'r cig i goginio ar y tu-fewn.

  • Defnyddiwch thermomedr sy'n ymateb ar unwaith er mwyn arolygu tymheredd mewnol y cig. Gallwch roi'r thermomedr yn y bwyd a darllen y canlyniad yn ddiogel, yn ddigon pell i ffwrdd o'r gwres.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY