
BARBECIW
Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
YNGLYN Â BARBECUES
CYNGHORION IECHYD A DIOGELWCH AR GYFER BARBECIWIAU
Efallai'r agwedd bwysicaf o unrhyw fath o goginio yw i sicrhau bod y bwyd wedi'i goginio'n iawn a bod neb yn dioddef unrhyw anesmwythder o ganlyniad i safonau isel o lendid. Cymerwch sylw o'r cynghorion isod i sicrhau bod eich barbeciw yn ddiogel ac yn iach.
- Pan yn coginio ar y tu allan mae'n amlwg yn anodd i gadw bwydydd yn dwym neu'n oer, ac i sicrhau bod popeth yn lân. Dylech wastad gadw bwydydd oer neu ddarfodedig yn y rhewgell neu mewn bocs oeri, a dylech fwyta bwydydd yn syth ar ôl eu coginio. Peidiwch â gwasanaethu bwyd nes bod y gwesteion yn barod i fwyta.
- Peidiwch â chadw bwyd allan o'r rhewgell / bocs oeri yn rhy hir.
- Dylech sicrhau bod unrhywbeth sy'n cynnwys briwsion cig (e.e. byrgers neu selsig) wedi'u twymo a'u coginio trwyddo, heb unrhyw ddarnau pinc ynddynt. Peidiwch â than-goginio cigoedd wedi'u prosesu.
- Mae'n rhaid dadrewi'n drylwyr gig neu gyw iâr wedi'u rhewi cyn ei goginio. Y syniad gorau yw i dadrewi dros nos yn y rhewgell neu yn y meicrodon - nid ar dymheredd ystafell oherwydd y perygl o facteria. Mae bacteria yn ffynnu lle mae'n gynnes, ac yn dyblu yn eu niferoedd bob 20 munud.
- Dylech gadw bwydydd amrwd a bwydydd wedi'u coginio ar wahân bob amser i osgoi'r perygl o un yn heintio'r llall. Peidiwch â defnyddio'r un offer i drin cig amrwd a bwydydd wedi'u coginio. Hefyd, peidiwch â chadw cigoedd amrwd yn agos at fwydydd sy'n barod eu bwyta fel bara a salad.
- Dylech olchi'ch dwylo bob tro ar ôl cyffwrdd â chig, pysgod neu gyw iâr amrwd.
- Symudwch y bwyd o gwmpas y barbeciw fel ei fod yn coginio'n gyson.
- Mae'n well defnyddio taclau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o fwyd neu i'w glanhau rhwng eu defnyddio. Cadwch eich cytleri a'ch offer yn lân.
- Os mae'r cig wedi bod yn eistedd mewn marinâd, peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer ireiddio'r cig: dylech wneud cyflenwad ar wahân i'r diben yma. Hefyd, peidiwch â defnyddio marinâd ar fwydydd wedi'u coginio os y'i defnyddiwyd ar gig amrwd.
- Peidiwch byth â chymysgu mathau gwahanol o fwydydd amrwd yn yr un marinâd (e.e. cig a physgod). Dylech eu marinadu ar wahân.
- Defnyddiwch fyrddau torri gwahanol ar gyfer cynhwysion amrwd a bwydydd wedi'u coginio.
- Peidiwch â gadael i'ch anifeiliaid anwes fynd yn agos at y bwyd na'r ardal paratoi.
- Dylech roi cyw iâr sydd wedi'i goginio'n barod yn syth ar y barbeciw er mwyn cwblhau'r coginio. Byddai ei adael yn golygu bod y bacteria yn lluosogi. Gwnewch yn siwr bod y cyw iâr wedi'i goginio drwyddo a bod y suddion yn rhedeg yn glir (nid yn binc).
- Cadwch fwydydd amrwd mewn llestr â chlawr iddo ac allan o'r haul.
- Cadwch y bwyd wedi'i orchuddio bob amser i rwystro pryfed ac adar rhag mynd yn agos ato.
- Ar ôl uchafswm o ddwy awr, dylech naill ai taflu bwyd sydd wedi'i goginio i ffwrdd, neu ei roi yn y rhewgell. Peidiwch â gadael iddo sefyll o gwmpas os bydd pobl eisiau ei fwyta'n ddiweddarach.
- Glanhewch y barbeciw ar ôl ei ddefnyddio bob tro.
