dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bbq picture

BARBECIW

Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
Mae'r tywydd braf wedi cyrraedd yn barod a, gyda'r haf ar y gorwel, bydd cyfleon i ni fentro tu-allan i fwyta. Mae cynnal barbeciw yn un o'r ffyrdd gorau i fwynhau'r cyfuniad atyniadol o fwydydd da a'r haul. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd silffoedd yr archfarchnadoedd yn cael eu gwac‡u o selsig, byrgers, pysgod a thoriadau amrywiol o gig a chyw iâr. Gan gofio hyn, mae'n hanfodol i gynllunio o flaen llaw cyn mentro i wahodd pobl i fwynhau eich barbeciw.

SUT DDECHREUODD BARBECIWIAU?

  • Mae sawl awgrym am sut ddechreuodd y grefft o goginio barbeciw. Un awgrym yw bod y Ffrancwyr ar y blaen gyda'r modd yma o goginio, a bod yr enw'n dod o'u hymadrodd 'Barbe-a-quene', sy'n meddwl i goginio rhywbeth 'o'r wisgers i'r gynffon'. Yn ogystal, roedd lledu saws blasus dros y cig yn un o arferion coginio Ffrainc.

  • Ar y llaw arall, mae tystiolaeth mai o'r Caribî y daeth y dull yma o goginio, lle byddai'r Arawak, y brodorion cynhenid, yn coginio cig trwy ei roi ar sticiau dros dwll tân. Yr enw ar y sticiau pren oedd 'barbacoa' ac mae'n debyg mai dyma un o'r cyfeiriadau cynharaf at gynnal gril ar y tu-allan. Fe ddysgodd trefedigaethwyr a morwyr Sbaen sut i goginio yn y ffordd yma, ac fe ddefnyddion nhw'n gair cynhenid, barbacoa, i ddisgrifio'r dull.

  • Dywed hefyd bod y gair 'buccaneer' yn gysylltiedig â barbeciwiau. Defnyddiodd y Ffrancwyr y gair 'boucanier' i ddisgrifio un o frodorion ynysoedd Hispaniola a Tortuga, y naill yn drefedigaeth Sbaen a'r llall yn eiddo Ffrainc. Byddai'r trigolion yn hela, ac yna coginio'r cig dros dân mewn ffrâm bren, a elwid yn 'Boucan' gan y Ffrancwyr. Fe ddaeth y gair o ymadrodd yr Arawak am y rhesel a ddefnyddiwyd i rostio'r cig.

  • Fodd bynnag, mae selogion y barbeciw yn yr Unol Daleithiau yn mynnu mai o iaith y Taino (llwyth a drigai yn Fflorida a'r Caribî) y daeth yr enw. Meddai pennaeth y llwyth mai cyfieithiad llythrennol 'barbeciw' yw:

    - Ba o Baba (tad)
    - Ra o Yara (lle)
    - Bi o Bibi (dechreuad)
    - Cu o Guacu (y tân sanctaidd)

    Gan roi'r cyfan at ei gilydd, ystyr y gair yw "dechreuad y tad-tân sanctaidd".
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY