
BARBECIW
Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!
YNGLYN Â BARBECUES
Mae'n siwr bod y rhan fwyaf o bobl wedi mwynhau barbeciw rywbryd, ond efallai byddwch yn synnu i glywed fod yna dipyn o gelfyddyd yn perthyn i'r dull yma o goginio. Mae llawer mwy iddo na rhoi ychydig o selsig a byrgers ar y gril ac aros nes eu bod nhw'n barod. Cyn i chi fentro ar eich barbeciw nesaf, cymerwch olwg ar y tips yma, ac efallai byddwch yn dysgu rhywbeth newydd!
CYNGOR AR GYFER EICH BARBECIW
- Dylech sicrhau fod pob dim wedi'i paratoi cyn dechrau coginio. Gan nad yw ein tywydd yn rhy ddibynadwy, does dim llawer o ddiben i gynllunio barbeciw gormod o flaen llaw, ond mae'r rhagolygon yn arfer bod yn iawn pan yn hysbysu am gyfnod o dywydd da. Yna fe allwch gynllunio'ch barbeciw sawl diwrnod o flaen llaw.
- Os ydych yn bwriadu marinadu cig, dylech ei roi yn y rhewgell o leiaf 4-6 awr cyn y barbeciw - byddai'n syniad da i'w adael dros nos. Mae marinadu'n sicrhau eich bod yn cael holl flas y cig, ac mae o gymorth i wneud y cig yn fwy tyner. Ar y llaw arall, dim ond hanner awr sydd angen ar bysgod i'w marinadu cyn eu coginio. Pe byddech yn gadael pysgod mewn marinâd dros nos, byddai'r asidau yn "coginio" y pysgod.
- Dylech baratoi'r bwydydd i gyd y diwrnod gynt a'u cadw yn y rhewgell. Fel arall, gadewch sawl awr yn y bore i baratoi'r cyfan.
- Mae'n syniad da i gadw cyflenwad o sercol yn y sied / garej oherwydd unwaith i ni gael ysbaid o dywydd braf, mae'r siopau yn rhedeg allan, gan fod pawb yn cael yr un syniad.
- Pan yn coginio ar y barbeciw, dylech sicrhau bod yr offer a'r bwyd gerllaw. Yr awgrym gorau yw i gadw popeth ar fwrdd cadarn gerllaw, i sicrhau nad oes yn rhaid i chi ddychwelyd yn rhy aml at y gegin. Bydd hyn hefyd yn golygu eich bod yn gallu mwynhau cwmni eich gwesteion tra'n cadw llygad ar y barbeciw.
- Byddai cael gwresogydd-patio yn ychwanegu at yr achlysur, gan fod ein diwrnodau braf yn gallu troi'n nosweithiau lled-oer. Mae gwresogydd yn sicrhau bod chi a'ch gwesteion yn aros yn gyffyrddus hyd yn oed ar ôl iddo dywyllu.
- Cymerwch y cig a'r ciw iâr allan o'r rhewgell tua awr cyn coginio. Cadwch nhw wedi'u gorchuddio mewn awyrgylch lled-oer fel eu bod yn cynhesu'n gymedrol, fel eu bod yn suddlon wedi iddynt gael eu coginio. Pe byddech yn eu coginio'n syth o'r rhewgell fe allai droi'n sych ac wedi'u llosgi'n ulw.
- Dylech lanhau'ch gril sercol bob tro ar ôl ei ddefnyddio. Gadewch i'r gril oeri ac yna'r cyfan sydd ei angen yw brws gwifrau ac ychydig o ddwr â sebon. Gallwch lanhau griliau nwy gan droi'r gwres arno am ddeg munud er mwyn rhyddhau'r bwydydd sy'n ofer ar y wyneb, ac yna ei ysgubo i ffwrdd.
- Cadwch y taclau a'r offer yn lân, gan eu golchi a'u sychu'n drylwyr ar ôl eu defnyddio.
- Unwaith bod y gril yn dwym dylech wasgaru ychydig o olew coginio arno er mwyn sicrhau na fydd y cig yn sticio a thorri.
- Peidiwch byth â gorlwytho'r gril gyda bwyd, gan y bydd hyn yn golygu bydd y bwydydd yn coginio'n anwastad. Mae'n werth canolbwyntio ar safon, yn hytrach na maint, ac felly dylech ond coginio ychydig o ddarnau o fwyd ar unrhyw adeg.
- Cadwch lygad ar y barbeciw bob amser fel na fydd y bwyd yn gor-goginio. Dylech goginio'r cig yn araf a'i droi'n aml. Mae'n well dechrau coginio cyn i'ch gwesteion gyrraedd fel nad oes rhaid iddynt aros yn rhy hir cyn bwyta.
- Rhowch y bwyd allan ar unwaith. Os mae'n cael ei adael, fe aeth yn sych ac yn ddiflas. Cofiwch fod y cig yn parhau i goginio ar ôl iddo adael y tân.
- Gadewch ddigon o amser i'r barbeciw dwymo. Gadewch y sercol am o gwmpas hanner awr er mwyn iddo gyrraedd y tymheredd cywir. Dylai'r darnau o sercol fod â golwg wen, llychlyd, gyda golau cochlyd ynddynt.
- Cymerwch eich amser tra'n coginio. Byddai coginio'r bwyd yn rhy gyflym yn golygu iddo gael ei ddeifio ar y tu allan ond heb ei goginio trwyddo. Dylech edrych ar faint o amser mae'n cymryd i goginio pob math o fwyd ar y barbeciw.
- Torrwch y brasder oddi ar gig, a pheidiwch â defnyddio gormod o saim neu olew mewn marinadau gan fod saim sy'n diferu ar y barbeciw yn achosi neidiau yn y tân, a bydd y rhein yn distrywio'r bwyd.
- Peidiwch â phrocio neu drywanu'r cig gan fydd y suddion yn cael eu colli a'r cig yn troi'n sych ac yn wydn.
- Os ydych yn coginio gan ddefnyddio clawr ag awyrdyllau ynddo, yna nid oes yn rhaid troi'r cig, gan fod y dechneg yn debyg o rostio yn y ffwrn. Dylech wrthsefyll y temtasiwn i gael golwg pan yn coginio â chlawr gan y bydd hyn yn achosi i'r fflamiau neidio i fyny ac yn ychwanegu at yr amser coginio. Hefyd mae coginio gyda chlawr yn rhoi naws mwy 'fyglyd' at y bwyd.
- Peidiwch byth â defnyddio petrol neu betrol taniwr i gynnau eich barbeciw. Mae'r cemegau mor gryf fel y byddant yn rhoi blas ar eich bwyd. Y dewis gorau yw prynu deunydd arbennig, heb gemegau, i gynnau'r tân.
- Un ffordd i greu arogl dymunol yw i lapio sawl darn o rosmari mewn ffoil a'u rhoi ar y sercol poeth.
- Gan na allem fod yn sicr pryd bydd yr haul yn disgleirio yng Nghymru, mae'n werth i roi ychydig o gig yn y rhewgist, a chadw'r cynhwysion angenrheidiol ar gyfer barbeciw yn eich cwpwrdd.
- Pan yn coginio pysgod ar y barbeciw, peidiwch â'u symud yn rhy gynnar oherwydd bydd hyn yn stopio'r croen rhag garameleiddio, ac y bydd yn sticio at y gril.
- Pan yn coginio gyda sercol, os ydych yn pendroni dros faint i roi ar y barbeciw, mae'n bob tro yn well i fod yn hael. Adeiladwch y sercol mewn carn siâp côn, gan ychwanegu deunydd cynnau tân rhwng yr haenau, i sicrhau ei fod yn llosgi'n gyson. Wrth iddo losgi, bydd y carn yn cwympo ac yn gwasgaru.
- Dylech fod yn ymwybodol o berygl tân. Peidiwch â rhoi'r barbeciw yn rhy agos at goed, ffensiau pren neu unrhywbeth a all losgi. Peidiwch â gwisgo dillad llac ac os oes gennych wallt hir dylech ei glymu i fyny. Symudwch unrhyw rwystrau neu ddeunydd llosgadwy i ffwrdd o'r barbeciw, ac mae'n syniad da i gael diffoddydd tân, dwr neu dywod wrth law, jyst rhag ofn.
