dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bbq picture

BARBECIW

Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!

TACLAU AC OFFER AR GYFER Y GWAITH (taclau, tanwydd, offer)


Mae gan yr arfer o wneud barbeciw darddiad cyntefig a'r atyniad o goginio fel hyn oedd ei fod mor syml. Fodd bynnag, mae barbeciwio heddiw'n fusnes mawr ac mae datblygiadau o ran cynllun y barbeciw yn golygu bod gennym lu o daclau ac offer ar gael erbyn hyn.

TACLAU AC OFFER DEFNYDDIOL

  • Thermomedr y gellir ei ddarllen yn syth

    Dylid coginio bwyd barbeciw yn ôl tymheredd yn hytrach nag amser. Ar ôl cyrraedd tymheredd arbennig, bydd y cig wedi'i goginio ac yn llawn sudd o hyd. Os ydych chi'n gadael iddo goginio ymhellach bydd y cig yn troi'n sych ac yn galed. Gyda thermomedr y gellir ei ddarllen yn syth byddwch yn gwybod pryd fydd y cig wedi'i goginio'n berffaith. Mae thermomedr yn costio rhwng £8 a £20 ac mae rhai modelau digidol da ar gael.

  • Sbatiwlas

    Mae sbatiwlas yn hanfodol ar gyfer codi a throi'r cig. Os ydych chi'n defnyddio fforc i wneud hyn yna byddwch yn colli'r holl leithder wrth goginio'r cig a bydd yn sychu. Dylai'r sbatiwla fod a charn hir fel y gallwch sefyll i ffwrdd oddi wrth y gwres.

  • Gefel

    Mae gefel dda yn hynod ddefnyddiol gan y byddwch yn gallu codi a throi'r cig heb ei falu. Yn ddelfrydol, dylech ddewis model â gafael da fel na fydd yn llithro o'ch llaw. Gallwch ddefnyddio gefel a sbatiwla gyda'i gilydd. Trwy roi'r sbatiwla o dan y cig gallwch ddefnyddio'r efel i'w gadw yn ei le wrth ei godi.

  • Cyllyll

    Fel gyda phob math o goginio, mae cyllyll o ansawdd da yn hollol hanfodol a dylid eu cadw'n finiog ac yn lân i gael y canlyniadau gorau. Dur carbon yw rhai o'r cyllyll gorau ond, gair i gall, bydd y rhain yn rhydu os cânt eu gadael yn wlyb. Gofalwch eich bod yn eu minio'n rheolaidd, fel eu bod yn cadw'u min, a fydd yn para'n hirach. Mae'n werth prynu miniwr cyllyll o ansawdd da - rhai ceramig yw'r gorau.

  • Ffyrc torri cig

    Mae gan y ffyrc hyn garnau hir ac mae ganddyn nhw ddwy big fel arfer. Fel mae'r enw'n ei awgrymu, dylid ond defnyddio'r ffyrc hyn i dorri cig ac nid i godi'r cig wrth ei goginio. Cynlluniwyd y ffyrc hyn i ddal y cig yn gadarn ac yn ddiogel wrth i chi ei dorri gyda chyllell finiog.

  • Byrddau torri

    Mae'n rhaid cael byrddau torri cadarn o ansawdd da. Bydd eu cryfder yn golygu y bydd gennych arwynebedd da i weithio arno am flynyddoedd lawer. Mae'n ddefnyddiol cael mwy nag un bwrdd torri os ydych chi'n paratoi gwahanol fathau o fwyd (e.e. cig, dofednod a physgod). Bydd hyn yn eich diogelu rhag unrhyw berygl o drawshalogi. D.S. - dylid torri cig yn ystod yr amser paratoi ac nid yn ystod y barbeciw ei hun.

  • Mop Saws/Iro

    Perffaith ar gyfer taenu saws ar ddarnau o gig wrth ei goginio neu wrth ei fwydo mewn marinâd. Mae mopiau iro iawn yn edrych fel mopiau golchi llestri bach ac ar gael mewn gwahanol feintiau. Ar hyn o bryd mae'r mopiau hyn yn arbenigol ac mae'n anodd dod o hyd iddyn nhw yn y DU. Does dim angen i chi boeni gormod - bydd brws iro arferol yn gwneud y tro'n iawn.

  • Bwrdd gwaith

    Mae bwrdd gwaith cadarn wrth eich ochr yn gweithio fel cownter cegin awyr agored. Mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer eich taclau barbeciw, marinadau, platiau, sawsiau ac ati. Bydd anghofio'r eitem hwn yn achosi tipyn o gur pen i chi!

  • Offer Tân

    Gobeithio'n wir na fyddwch chi ei angen, ond mae bod yn ymwybodol o ddiogelwch yn gam call. Dylai offer safonol gynnwys rhaw fach, gefel tân, procer, bwced ac ychydig o dywod.

  • Hambyrddau gweini dur gwrthstaen a ffoil alwminiwm

    Yn amlwg mae metel yn ddargludydd gwres gwych a bydd rhoi bwyd ar hambwrdd dur gwrthstaen a/neu ei lapio mewn ffoil alwminiwm yn cadw cig yn gynnes a llaith.

  • Ffedogau a menig ffwrn

    Gall barbeciwio greu cryn lanast felly oni bai eich bod yn hoff o gael eich gorchuddio mewn bwyd, mae'n rhaid cael ffedog! A chan y byddwch yn gweithio'n agos at wres llethol, mae'n amlwg y bydd angen menig ffwrn arnoch chi.

  • Oerydd

    Delfrydol ar gyfer cadw cig amrwd neu ddiodydd ysgafn/alcoholig yn oer. Perffaith os nad oes oergell o fewn cyrraedd wrth gynnal barbeciw oddi cartref neu os ydych chi am osgoi mynd yn ôl ac ymlaen i'r oergell yn eich cegin!

  • Ffynhonnell dwr ffres

    Defnyddiol ar gyfer oeri'r glo os yw ychydig yn rhy boeth. Mae chwistrellydd llawn dwr yn ddefnyddiol i ddiffodd unrhyw danau sy'n tanio'n sydyn gan y bydd tanau seimllyd yn gwneud i'r bwyd flasu'n chwerw ac wedi llosgi. Mae'n werth cael ffynhonnell ddwr wrth law ar gyfer golchi eich dwylo a thrin unrhyw losgiadau neu bothelli.

  • Lladdwr pryfaid

    Mae coginio yn yr awyr agored bob amser yn denu pryfaid felly mae lladdwr pryfaid yn ddefnyddiol i gael gwared o'r diawled!

PREN A SERCOL


Briciau Sercol yw'r tanwydd mwyaf poblogaidd ar gyfer barbeciw. Mae sercol yn hawdd, cyfleus a thaclus ac mae'n llosgi'n gyson. Nid oes gan sercol ei hun unrhyw arogl na chymeriad arbennig ond mae sudd y cig sy'n diferu ar y briciau'n creu blas unigryw'r cig. Ond, byddwch yn ofalus o friciau sy'n cynnwys 'ffilter cemegol', gan y bydd hwn yn rhoi blas drwg i'r cig. Cynwyr tân di-wenwyn yw'r gorau i gynnau sercol. Nid ydym yn argymell hylifau tanio gan eu bod yn cynnwys gweddillion cemegol. Fel gyda'r mwyafrif o bethau, mae hi bob amser yn well gwario ychydig mwy o arian ar friciau sercol o ansawdd da i gael y canlyniadau gorau gan y gallai sercol rhatach effeithio ar flas y bwyd.

Fe all fod yn anodd cynnau tân sefydlog trwy ddefnyddio pren ond, os ydych chi'n ei ddefnyddio, mae rhai mathau o bren yn creu aroglau hyfryd sy'n effeithio ar flas y bwyd mewn modd bendigedig. Mae naddion pren o bren caled neu bren ffrwythau yn dda ac mae siopau arbenigol yn cynnig amrywiaeth eang i'r rhai sy'n cymryd eu barbeciws o ddifri. Nid yw'n anghyffredin i bobl gyfuno sercol gyda naddion pren. Y sercol fyddai'r prif danwydd gyda'r naddion pren wedi'u gwlychu mewn dwr yn cael eu gwasgaru ar ben y sercol poeth. Yna, byddai'r naddion yn mudlosgi a rhyddhau eu haroglau'n ysgafn cyn sychu a chynnau. Ar y cyfan, ar gyfer mygu mae pren orau, ac ystyrir mai coed Deri ac Afal yw'r gorau.


RHWBIADAU, MARINADAU A SAWSIAU


Mae bob amser yn ddefnyddiol cael amrywiaeth o rwbiadau, marinadau a sawsiau gwahanol. Yn amlwg, mae rhai blasau'n gweithio'n well gyda rhai bwydydd nag eraill ac, felly, mae'n bwysig bod blasau'n cael eu cyfuno i gydfynd â'r bwyd yn hytrach na defnyddio unrhyw beth dan haul. Dylid marinadu bwyd mewn oergell am sawl awr o leiaf ond dros nos yn ddelfrydol er mwyn i'r blas dreiddio i'r bwyd yn iawn. Gellir defnyddio unrhyw farinâd sydd ar ôl i iro'r bwyd wrth ei goginio. Gellir ychwanegu rhwbiadau at y bwyd wrth baratoi a chyn coginio a hefyd ar gyfer ei iro. Gellir defnyddio sawsiau i iro ond fe'u defnyddir i gydfynd â'r bwyd wrth ei weini fel arfer.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY