dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
bbq picture

BARBECIW

Does dim yn well nac eistedd allan yn yr haul gyda diod oer a bwyd poeth oddi ar y barbeciw!

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu am farbeciwio bwyd, sut y daeth yr arferiad i fodolaeth yn ogystal â chyngor am yr offer gorau ar gyfer eich barbeciw!

MATHAU O FARBECIW


Mae sawl ffordd o goginio eich bwyd ar farbeciw ac mae'n dibynnu ar eich dewis personol a'r dull sy'n apelio fwyaf i chi. Er enghraifft, mae'n well gan rai'r hwylustod o ddefnyddio gril nwy tra na fyddai rhai'n breuddwydio am ddefnyddio unrhyw beth heblaw model sy'n llosgi pren neu sercol. Chi sydd i ddewis ond dyma ganllaw syml i'ch helpu i wneud y dewis.

BETH I'W DDEWIS?


Cyn i chi gychwyn chwilio bydd angen i chi gofio bod barbeciwio yn golygu coginio dros wres anuniongyrchol. Yr hyn rydyn ni'n ei gysylltu fel arfer â barbeciwio yw darnau o gig yn coginio ar gril dros fflam (gwres uniongyrchol), sy'n golygu nad yw'r bwyd yn cymryd rhyw lawer i goginio. Mewn gwirionedd, grilio yw hyn ac nid barbeciwio! Dull o goginio awyr agored yw barbeciwio go iawn sy'n defnyddio ffynhonnell wres anuniongyrchol, sy'n cynhyrchu mwg a gwres i goginio'r cig. O ganlyniad, mae angen llawer mwy o amser i goginio'r cig gan nad yw'n cael ei roi'n uniongyrchol dros y ffynhonnell wres.
  • Gril Llosgi Pren neu Sercol

    Dyma'r dewis mwyaf poblogaidd i gartrefi ym mhob cwr o'r wlad. Mae'r cig yn cael ei osod ar y gril yn uniongyrchol dros y gwres fel ei fod yn coginio'n eitha' cyflym a bydd angen ei droi'n aml. Byddwch yn wyliadwrus iawn o griliau pecyn fflat rhad. Mae griliau rhad yn wastraff arian llwyr gan mai dim ond selsig a byrgyrs maen nhw'n gallu eu coginio gan nad ydyn nhw'n cynhyrchu digon o wres i goginio darnau da o gig. Anaml iawn maen nhw'n sefydlog hefyd - mae ganddyn nhw goesau plygu simsan sydd i fod i gynnal y gril a gall hyn fod yn beryglus.

    Mae'n well gwario ychydig mwy o arian ar gril sydd â blwch tân dwfn, siâp powlen (i ddal y pren/sercol) a sydd â gorchudd o'r un maint gydag uwch ac is fentiau i reoli'r tymheredd. Mae'r griliau hyn yn gadarn ac, oherwydd dyfnder y blwch tân, yn cynhyrchu digon o wres i goginio unrhyw fwyd sy'n mynd â'ch ffansi. Mae mathau a meintiau griliau pren/sercol yn amrywio, ond byddai'n syniad da prynu model o faint da sydd ag enw da rhag ofn y bydd rhaid i chi farbeciwio ar gyfer achlysuron cymdeithasol mawr!

  • Mygwyr / Pyllau Barbeciw

    Mae'r rhain ond ar gyfer pobl sy'n cymryd barbeciw a bwyd o ddifri! Fodd bynnag, os ydych chi'n ystyried eich hun yn un o'r bobl hyn, dyma'r model i chi! Mae'r dull o goginio gyda mygwr/pwll yn golygu gosod y tanwydd mewn blwch tân ar yr ochr. Yna, mae angen rhoi'r bwyd ar y rac a chau'r clawr. Mae'r gwres a'r mwg a gynhyrchir yn y blwch tân yn treiddio drwyddo a chaiff y bwyd ei goginio'n araf ond yn drylwyr. Mae meintiau'n amrywio o fodelau sy'n addas ar gyfer yr ardd gefn hyd at y rhai sy'n rhaid eu tynnu â char! Mae'r math hwn o farbeciw yn boblogaidd iawn ledled de'r Unol Daleithiau ond mae'n eithaf anodd dod o hyd iddyn nhw yn y DU. Ewch i'r wefan hon i gael rhagor o fanylion ar sut i adeiladu eich mygwr eich hun: www.britishbarbecue.co.uk

  • Griliau Nwy

    Mae griliau nwy wedi dod yn eitha' poblogaidd ond yn ôl llawer, nid yw'n farbeciwio 'go iawn'. Yn amlwg mae griliau nwy yn cynnau a chynhesu'n gyflym ond dydyn nhw ddim yn rhoi blas mwg ar y bwyd, sef hanfod coginio yn yr awyr agored. Gellid dadlau a yw griliau nwy yn cadw tymheredd cyson gan fod rhai'n credu ei bod hi'n rhy anodd rheoli'r gwres. Ar y llaw arall, mae defnyddwyr griliau nwy yn dadlau y gallwch chi goginio ar dymheredd isel, canolig neu uchel i gael gwahanol ganlyniadau. Beth bynnag yw'r dadleuon, prif fanteision griliau nwy yw eu bod yn fwy cyfleus os nad oes gennych chi lawer o amser i'w sbario a'u bod yn hawdd iawn i'w diffodd. Yn ogystal, gellir cael gwres anuniongyrchol trwy gynnau llosgydd nwy ar un pen a gosod y cig ar y pen arall. Mae griliau nwy'n bendant yn declynnau taclus, gan eu bod yn hawdd i'w glanhau ond mae'n rhaid ychwanegu unrhyw flas 'barbeciw' mewn ffyrdd eraill gan na ellir coginio bwyd barbeciw go iawn â nwy.

  • Mygwyr Dwr

    Mae Mygwyr Dwr yn gymharol newydd i fyd barbeciws ac maen nhw'n addas ar gyfer coginio yn yr ardd gefn yn bennaf. Maen nhw'n gweithio trwy losgi pren o dan badell fawr o ddwr. Mae'r dwr yn berwi ac mae'r gwres yn coginio'r cig tra bod yr anwedd yn cyfuno â mwg y pren i orchuddio'r cig â blas mwg. Wrth i'r anwedd dwr a'r mwg gyddwyso ar y cig mae hefyd yn ei fwydo sy'n golygu ei fod yn dyner a brau wrth ei fwyta. Mae'r tymheredd yn aros yn gyson mewn mygwr dwr gan fod yr anwedd dwr yn ei atal rhag codi'n uwch na 100°C, sef pwynt berwi dwr wrth gwrs. Yn ogystal, gall ychwanegu perlysiau, stoc, sudd cig neu hyd yn oed rhywfaint o gwrw at y badell ddwr wella blas y cig ymhellach! Nid yw mygwyr dwr yn declynnau mor gyffredin â griliau ac maen nhw'n cosio tua £200 ar hyn o bryd. Ond, o ystyried y canlyniadau hynod flasus wrth goginio, efallai mai dyma'r un ar gyfer y dyfodol ac y gallai ddod yn fwy poblogaidd na griliau awyr agored cyffredin yn y pen draw.

  • Barbeciws Sercol Gwaith Maen a Charreg

    Barbeciw parhaol ar gyfer yr ardd sy'n cael ei argymell i'r rhai sy'n hoff iawn o farbeciw! Maen nhw'n gweithio yn yr un modd â'r gril llosgi pren/sercol ac fe allan nhw amrywio o gynllun briciau syml i fodel cyfandirol mwy moethus. Mae'r prisiau'n amrywio hefyd ac mae'r rhai drutaf fel arfer yn costio cannoedd o bunnau.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY