dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
beef picture

CIG EIDION CYMREIG

Mae dros 225,000 o wartheg magu yng Nghymru ac, ar unrhyw adeg, bydd maint yr holl fuches yn cyfrif dros 1.5 miliwn.

Y CANLYNIADAU

  • Bellach mae cig eidion Prydeinig yn fwy diogel nag erioed, diolch i ganllawiau iechyd-a-diogelwch manwl. Pan oedd allforion yn isel iawn, fe wnaeth cig eidion o Gymru arwain y ffordd i adfywio'r fasnach â gwledydd eraill. Yn wir, fe aeth y cyflenwad cyntaf o gig eidion wedi'r gwaharddiad i'r Iseldiroedd, gydag arwydd "Cig Eidion Cymreig" ar bob blwch, er mwyn osgoi'r gwarthnod sy'n perthyn i gig eidion o Brydain.


  • Mae cig eidion Cymreig wedi dod yn bell iawn yn yr amser byr ers dyddiau tywyll BSE a chlwyf traed-a-genau, ond mae'r diwydiant hefyd yn ymladd yn erbyn newid mewn arferion bwyta, sydd wedi golygu bod pobl yn bwyta llai o gig eidion bellach. Fodd bynnag, y newyddion da yw bod allforion o gig eidion nawr yn agos i'r hyn fuont cyn yr argyfwng, yn dilyn ymgyrch marchnata trylwyr Ð er bod y farchnad Ffrengig yn dal yn anodd i'w goresgyn!


  • Er gwaetha'r gostyngiad mewn gwerthiant cig, a'r llu o argyfyngoedd sydd wedi wynebu'r diwydiant dros y degawd diwethaf, mae cig eidion yn dal i fod yn ddewis poblogaidd gyda'r cwsmeriaid. Mae cig eidion Cymru yn fwyfwy yn ddewis yr arbenigwyr a chwsmeriaid â chwaeth. I brofi hyn, mae Tesco wedi llofnodi cytundeb cyfyngol â dros 600 o ffermydd Cymru i gyflenwi pob un o'r 45 o archfarchnadoedd yng Nghymru â chig eidion Cymreig. Mae hyn wedi rhoi hwb sylweddol i'r ffermwr Cymreig ac mae'n arwydd clir o'r gefnogaeth gan y cyhoedd sy'n cynnal y traddodiad hir o gynhyrchu cig eidion yng Nghymru.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY