dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
beef picture

CIG EIDION CYMREIG

Mae dros 225,000 o wartheg magu yng Nghymru ac, ar unrhyw adeg, bydd maint yr holl fuches yn cyfrif dros 1.5 miliwn.

ARGYFWNG Y CIG EIDION CYMREIG

  • Ym 1996 fe gyhoeddodd llywodraeth Geidwadol Prydain ddatganiad a siglodd y diwydiant cig eidion Cymreig i'w seiliau. Y newyddion oedd y gellid trosglwyddo'r clefyd BSE (Bovine Spongiform Encephalopathy neu "clwy'r gwartheg cynddeiriog") i ddynion trwy fwyta cig anifeiliaid heintiedig. Y ffurf ddynol o'r clefyd yw vCJD (Variant Creutzeldt Jakobs Disease) - sy'n anarferol iawn ond yn angheuol i'r claf.


  • Fel canlyniad i'r datganiad bu'r diwydiant cig eidion bron â chwalu, gyda gwartheg yn cael eu lladd yn heidiau, a gwaharddiad llwyr ar allforio cig eidion. Wynebodd cannoedd o ffermwyr y posibilrwydd o golledion enbyd yn sgîl y newyddion ac ymddangosai na fyddai'r fasnach cig eidion byth yn gwella'n ddigonol i'w hachub.


  • Fe ddilynodd gwaharddiad ar gig-eidion-oddi-ar-yr-asgwrn ym 1997, yn ogystal â lladd rhai gwartheg er mwyn codi'r gwaharddiad ar allforio'r cig i Ewrop. Ym mis Mehefin yr un flwyddyn fe gyflwynwyd system gyfrifiadurol i olrhain symudiadau'r gwartheg. Ym 1998 fe ddechreuodd ymchwiliad i fewn i'r argyfwng BSE, gyda'r canlyniad ei fod yn orfodol i ladd pob un fuwch a anwyd rhwng 1 Awst 1996 a'r adeg y darganfuwyd unrhyw achos o BSE, cyn 25 Tachwedd 1998.


  • Rhwng 1996 a diwedd yr argyfwng, fe laddwyd o gwmpas 4.5 miliwn o wartheg, gyda iawndal o dros £1.4 biliwn yn cael ei dalu i'r ffermwyr. Yn anffodus, bu farw 77 o bobl a ddioddefodd o vCJD. Am dipyn o amser fe barhaodd yr allforion o gig eidion yn druenus o isel i'w gymharu â'r sefyllfa cyn yr argyfwng. Hefyd, er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi barnu yn 2000 nad oedd cig eidion o Brydain yn cynnig perygl o BSE, dim ond nawr, tair blynedd yn ddiweddarach, mae Ffrainc yn ystyried codi'r gwaharddiad.


  • Wedi goroesi un argyfwng, cafodd y diwydiant cig eidion ei daro gydag un arall, gydag ymddangosiad haint y clwyf traed-a-genau. Gyda lledaeniad y clwyf, fe laddwyd mwy o wartheg ac fe waharddwyd yr allforion unwaith eto, yn dod â mwy fyth o ing i ffermwyr Cymru. Yn dilyn sawl mis o ladd anifeiliaid, fe ddangosodd y profion fod y gwartheg yn rhydd o'r clwyf ac fe godwyd y gwaharddiadau ond, yn anffodus, roedd mwy o niwed wedi'i wneud i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY