dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
beef picture

CIG EIDION CYMREIG

Mae dros 225,000 o wartheg magu yng Nghymru ac, ar unrhyw adeg, bydd maint yr holl fuches yn cyfrif dros 1.5 miliwn.

CIG EIDION A'I LU O DDEFNYDDIAU

  • Mae cig eidion yn fath hyblyg iawn o gig, ac mae'r defnydd amrywiol a wneir ohono yn golygu bod modd creu amrywiaeth fawr o brydau. Gellir ei stiwio, ei rostio, ei grilio, ei ffrio, ei dro-ffrio neu'i ferwi. Gellir defnyddio cig eidion wedi'i friwio i wneud saws bolognese, pastai'r bugail, neu'i lunio i fewn i belenni cig neu fyrgers.


  • Ceir nifer o wahanol fathau o gig eidion, ac mae'n gallu bod yn dipyn o beth i ddewis y darn priodol ar gyfer rysáit arbennig. Mae enwau'r toriadau gwahanol yn amrywio ar draws y byd, ond dyma'r enwau safonol a defnyddir ym Mhrydain:
  • Asen Flaen (Forerib)

    Yn gynt fe werthwyd y darn hwn 'ar yr asgwrn', ond bellach mae'n fwyaf tebygol o ddod wedi'i rolio heb ei esgyrn. Wedi'i goginio, mae'r darn hwn yn llaith, gan fod haenen fechan o frasder yn ei gwmpasu. Mae'r asen flaen yn ddelfrydol i'w rhostio, neu i'w thorri i fewn i stecau ar gyfer grilio neu ffrio.


  • Ochr flaenaf (Topside)

    Mae'r darn yma o gig yn goch iawn, ac mae'n dod â haenen o frasder yn ei amgylchynu. Mae'r addas i'w rostio ar ben ei hunan, neu mewn pot. Hefyd gellir ei dorri i fewn i stecau ar gyfer grilio neu ffrio, neu'i dorri'n ddarnau ar gyfer tro-ffrio.


  • Ochr arian (Silverside)

    Yn y gorffennol, byddai'r darnau hyn yn arfer cael eu halltu a'u berwi. Heddiw, fe'u gwerthir yn goch, heb halen. Mae'r darnau yn addas i'w rhostio, ond mae'n rhaid eu coginio'n araf, a'u brasteru'n rheolaidd.


  • Syrlwyn (Sirloin)

    Fel arfer gwerthir y darnau hyn heb esgyrn ac wedi'u rholio, ac mae'n fwyaf addas i'w rhostio.


  • Brisged (Brisket)

    Mae'r rhain yn debyg i'r syrlwyn, gan eu bod yn dod heb esgyrn ac wedi'u rholio. Gellir halltu'r darnau, ond yna bydd yn rhaid eu berwi: fel arall, mae'r darnau'n ddelfrydol i'w rhostio ar eu pen eu hunain neu mewn pot.


  • Crwper Uchaf (Thick Flank / Top Rump)

    Yn debyg i ddarnau'r ochr flaenaf, mae'r darn hwn yn addas i'w rostio neu'i dorri'n stecau i'w mudstiwio neu'u ffrio dros wres isel.


  • Stecen Grwper (Rump Steak)

    Ystyrir hon yn stecen fwy blasus na'r syrlwyn neu'r ffiled - ac mae'n rhatach, hefyd. Fodd bynnag, nid yw'r cig mor dyner. Mae'n addas i'w grilio, i'w ffrio, i'w rhoi ar farbeciw neu'i thorri'n ddarnau ar gyfer tro-ffrio.


  • Stecen Syrlwyn (Sirloin Steak)

    Dyma'r darn a ddefnyddir i stecau 'T'-bone, Porterhouse ac Entrecôte. Mae'r darn hefyd yn addas ar gyfer grilio, ffrio, tro-ffrio a barbeciws.


  • Stecen Ffiled (Fillet Steak)

    Dyma'r darn mwyaf drud o gig eidion, ond hefyd yr un mwyaf tyner oherwydd nad oes llawer o frasder o gwbl yn gysylltiedig â'r cig. Dyma'r darn a ddefnyddir i stecau Tournedos a Ch‰teaubriand. Mae'n cael ei defnyddio gan fwyaf iÕw grilio neu'i ffrio.


  • Stecau i'w fflach-ffrio

    Nid yw'r rhain mor dyner nac mor llawn o sudd â stecau crwper neu syrlwyn, ond rych chi'n cael gwerth eich arian. Torrir y stecau hyn o'r crwper uchaf, yr ochr flaenaf neu'r ochr arian ac maent yn addas i'w grilio, i'w ffrio neu'u tro-ffrio.


  • Stecau i'w mudstiwio

    Torrir y rhain o'r asennau neu'r ysgwydd, ac maent yn fwyaf addas i'w mudstiwio, neu'u rhoi mewn stiwiau a chaserolau.


  • Cig eidion i'w stiwio

    Torrir y darnau hyn o'r goes, y gwddf neu'r gwegil, ac maent yn rhatach na stecau i'w mudstiwio. Er mwyn cael y canlyniadau gorau mae'n rhaid coginio'r darnau yn araf ac yn hir. Maent yn ddelfrydol i'w mudstiwio neu'u rhoi mewn stiwiau a chaserolau.


  • Cig eidion wedi ei friwio'n fras

    Wedi ei fân-friwo o gig y gwegil, y gwddf, yr asen denau neu ystlys denau'r carcas. Mae cig eidion mân bras yn fwyaf addas ar gyfer pastai'r bugail ac i'w ddwfn-ffrio.


  • Cig eidion wedi ei friwio'n fân iawn

    Fe ddaw hwn o'r un darnau o gig â'r fersiwn bras, ond fe dorrir y cig llawer yn fwy mân. Mae'n ddelfrydol ar gyfer byrgers a phelenni cig, ac yn addas i'w sych-ffrio.


  • Cig eidion coch wedi ei friwo a stêc wedi'i mân-friwo

    Fe ddaw'r rhain o'r darnau mwyaf coch, isel eu braster, er mwyn cynnig dewis mwy iach.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY