dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
beef picture

CIG EIDION CYMREIG

Mae dros 225,000 o wartheg magu yng Nghymru ac, ar unrhyw adeg, bydd maint yr holl fuches yn cyfrif dros 1.5 miliwn.

CIG EIDION CYMREIG

  • Gellir olrhain hanes cig eidion Cymreig o'i wreiddiau Celtaidd, trwy oesoedd y Rhufeiniaid a'r Normaniaid hyd at y presennol. Fe ddechreuwyd rhoi trefn ar y diwydiant yn amser y Normaniaid, ac fe dyfodd i fod yn un o gynhyrchion pwysicaf Cymru.


  • Y math o wartheg sy'n gynhenid i Gymru yw'r fuwch ddu Gymreig, sydd wedi pori ar hyd ein gwlad ers sawl mil o flynyddoedd. Mae'r cyfuniad o borfeydd cyfoethog gwyrddion â hinsawdd ac amgylchedd ffafriol yn gwneud Cymru'n wlad ddelfrydol i gynhyrchu da byw.


  • Yn y gorffennol, ystyriwyd y fuwch ddu Gymreig (ynghyd â chynnyrch a da byw eraill) fel math o "arian". Yn wir, fel canlyniad fe alwyd y fuches "yr aur du o fryniau Cymru". Roedd symud y gwartheg o gwmpas y wlad o gymorth i'r datblygiad o wasanaethau mewnol Cymru, er enghraifft y ffyrdd a'r system bancio.


  • Y ffactor allweddol i safon uchel cig eidion Cymru yw'r cyflenwad o borfeydd sydd ar gael i ffermwyr y wlad. Mae hyn yn deillio o'r mwynau sy'n cyfoethogi'r pridd ac yn sicrhau fod y gwair yn tyfu. Felly, ynghyd â gofal gan y ffermwyr, mae'r amgylchiadau yn ddelfrydol i'r gwartheg i ffynnu.


  • Mae cynhyrchu cig eidion yn bwysig i amaethyddiaeth Cymru, sydd ei hunan yn allweddol i economi'r wlad. Mae dros 225,000 o wartheg magu yng Nghymru ac, ar unrhyw adeg, bydd maint yr holl fuches yn cyfrif dros 1.5 miliwn. Busnes arbenigol yw cynhyrchu da byw: y Gogledd yw canolbwynt y diwydiant cig eidion yng Nghymru, tra bod ffermwyr yn y De yn canolbwyntio'n fwy ar laeth.


  • Fe ddaw cig eidion Cymreig o wartheg a anwyd ac a fagwyd ar ffermydd Cymreig yn unig. Mae system i sicrhau bod y canllawiau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn, gyda phob buwch yn cael ei harchwilio gan filfeddyg bob 12 i 18 mis. Hefyd ceir arolygon ychwanegol yn achlysurol, ac mae'r sylw hwn i les yr anifeiliaid yn sicrhau bod safon ragorol y cig eidion yn parhau.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY