dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
chocolate picture

RHAGLEN SIOCLED

Sara Gibbard-Jones o Gaerdydd sy'n tywys Dudley ar daith go arbennig i ddarganfod siocled gorau'r byd. Ai Gwlad Belg sy'n haeddu'r clod, ynteu'r Unol Daleithiau neu Brydain Fawr? Bydd y ddau yn edrych ar y gwahanol fathau o siocled sy'n bodoli, gan ganolbwyntio, hefyd, ar waith Sara fel prynwr siocled.

DUDLEY YN DARGANFOD BUD O SIOCLED

Sut mae siocled yn cyrraedd y silffoedd yn ein siopau? Pam rydyn ni’n caru siocled gymaint? A phwy sy’n cynhyrchu siocled gorau’r byd? Mewn rhifyn arbennig o’r rhaglen Dudley bydd SARA GIBBARD-JONES yn tywys y cogydd DUDLEY NEWBERY ar bererindod go arbennig i ddarganfod byd paradwysaidd o siocled.
O slabiau mawr o siocled o Ffrainc a Gwlad Belg, i focsys o siocledi nefolaidd o’r Swistir, i wyau Pasg a cheiniogau siocled sy’n toddi ar y tafod, ers pum mlynedd bellach bu Sara yn gweithio fel prynwr siocled i rai o gwmnïau ac archfarchnadoedd mwyaf Prydain.

Mae Sara, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn gyfrifol am bob agwedd ar ddatblygiad nwyddau, o’r egin syniad i’r pecyn gorffenedig ar y silff, gan sicrhau fod siocled a melysion at ddant pawb ar gael i gwsmeriaid gydol y flwyddyn. Mae Sara ynghlwm â’r ymchwil, y blasu, y gwaith marchnata a’r pecynnu, ac mae wedi teithio i bedwar ban byd ar drywydd syniadau newydd.

Mewn arolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar, datgelwyd i 715.9 miliwn kilogram o siocled gael ei fwyta ym Mhrydain y llynedd, swm sydd yn cynrychioli 30% o’r farchnad Ewropeaidd. Ac mae Sara, fel y rhan fwyaf o’r boblogaeth, yn rhannu’r un dant melys!
"Yn reddfol, dw i’n berson sy’n hoffi bwydydd melys," cyfaddefa. "Dw i’n dueddol bob amser o ddewis pwdin! Ond, wrth weithio gyda siocled bob dydd, mae rhywun yn gallu blino ar bethau melys. Rhaid hefyd wrthsefyll temtasiwn! Yn rhinwedd fy swydd, dw i’n derbyn dwsinau o samplau siocled bob dydd a buaswn i’n sâl petawn i’n bwyta pob dim!"

Fe fydd Sara yn mynd â Dudley ar daith go arbennig i Efrog Newydd, Gwlad Belg a gwledydd Prydain ar drywydd siocled. Yn ei barn hi, yn yr Unol Daleithiau a Chanada y ceir y syniadau gwreiddiol gorau ar gyfer nwyddau siocled, tra bod y pecynnu yno hefyd yn wych. Ond o ran ansawdd, does nunlle i guro Ewrop.

"Gwlad Belg sy’n gwneud y siocled gorau, ond mae’r Swistir a’r Eidal hefyd yn cynhyrchu nwyddau siocled arbennig," eglura, "Ym Mhrydain, wrth gwrs, Cadbury sydd yn arglwyddiaethu, ac mae pobl erbyn hyn yn gyfarwydd â blas melys, llaethog y siocled hwnnw."
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY