dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
chocolate picture

RHAGLEN SIOCLED

Sara Gibbard-Jones o Gaerdydd sy'n tywys Dudley ar daith go arbennig i ddarganfod siocled gorau'r byd. Ai Gwlad Belg sy'n haeddu'r clod, ynteu'r Unol Daleithiau neu Brydain Fawr? Bydd y ddau yn edrych ar y gwahanol fathau o siocled sy'n bodoli, gan ganolbwyntio, hefyd, ar waith Sara fel prynwr siocled.

HANES SIOCLED

MaeÍn bosibl olrhain hanes siocled yn ªl filoedd o flynyddoedd pryd cyfunodd tymherau uchel, gwlaw trwm a lleithder i greu yr amgylchiadau perffaith iÍr goeden Cacao i ffynnu Æ a hwn ywÍr planhigyn syÍn rhoi siocled.

Cyn cyfnod yr Asteciaid, roedd diwylliant y Maya yn addoliÍr goeden Cacao, gan gredu ei fod o darddiad duwiol. Ystyr yn enw Cacoa yn iaith y Maya yw "bwyd duw", felly cawn enw gwyddonol Lladin y goeden: Theobrama Cacao, syÍn cyfieithu fel "bwyd y duwiau".

Bragwyd diod melys-chwerw gan y Maya drwy rostio a dyrnu ffa coco gyda chorn melys a phupryn. Gadawyd y cymysgedd i eplesu, ac feÍi cadwyd yn arbennig ar gyfer ei ddefnyddio mewn seremon¥au, neu ei yfed gan gyfoethogion aÍr offeiriaid.

Roedd gan yr Asteciaid fersiwn oÍr ddiod hon, oÍr enw xocolatl. FeÍi disgrifiwyd fel ïdiod gochlyd, ewynnog, llyfn a mwyn, wedi ei blasu ä dwr chwerw tshili, blodau aromatig, fanila a m°l gwylltÍ. Fe chwisgwyd yr hylif nes iddo fynd yn ewynnog, ac wedyn feÍi cynigwyd iÍr yfwr yn oer.

chocolates

Roedd blys mawr gan yr Asteciaid am y xocolatl neu chocolat fel y daethpwyd iÍw alw, gan ei fod yn cael ei ystyried yn amheuthun ac yn affrodisiad. Felly fe yfwyd llawer ohono: er enghraifft honnir bod yr Ymerawdwr Montezuma yn mynd trwy 50 jar o siocled bob dydd!

YstyriaiÍr Asteciaid hefyd fod ffa coco yn nwydd gwerthfawr, ac yn aml feÍu defnyddiwyd i dalu am bethau. Yn wir, mae sªn bod caethwas da yn costio rhyw gant o ffa iÍw brynu! Roedd yn well gan yr Asteciaid i gael eu dwylo ar ffa coco nag ar fetalau gwerthfawr megis aur ac arian.

Nid oedd coed coco iÍw darganfod ar y llethrau uchel o gwmpas teyrnas yr Asteciaid, ac felly fe gasglwyd y ffa fel arfer drwy deyrngedau (hynny yw, trethi ar deyrnasoedd llai grymus), trwy fasnach a thrwy ysbeiliau rhyfel.

Y cofnod cyntaf o goco yn cyrraedd Ewrop yw pan ddychwelodd Christopher Columbus oÍi bedwerydd ymweliad äÍr Byd Newydd rhwng 1502 a 1504.

Ar y dechrau, nid oedd ond diddordeb mewn ffa coco gan ychydig o fotanegwyr, ac ni ddarganfuwyd rhinweddau hudolus y coco am nifer o flynyddoedd. Y rheswm am hyn oedd y cyffro a gafwyd ynghylch nifer eraill oÍr trysorau y daeth Columbus adre gydag ef.

Nid oedd yr Ewropeaid felly yn gwybod am werth masnachol coco nes iÍr concwistadoriaid o Sbaen lanio ym Mecsico ym 1519, gan anrheithio teyrnas yr Asteciaid, o dan arweiniaeth Hernan Cortes.

Dychwelodd Cortes i Sbaen ym 1528, gyda galiynauÍn llawn o ffa coco, aÍr offer i droiÍr ffa yn siocled-yfed. Nid oedd yn hir cyn iÍr Sbaenwyr gael gwared ar y cynhwysion chwerw, aÍu cyfnewid am sinamon, nytmeg a siwgr i wneud y ddiod yn felys. Hefyd fe sylweddolwyd fod y ddiod yn blasuÍn well pan weinwyd hiÍn boeth.

Roedd cyflenwad ffa coco mor brin nes iÍr Sbaenwyr gadw eu rysàit am siocled-yfed yn gyfrinach am bron i ganrif. Pan gipiwyd llongau Sbaen yn dychwelyd adref ä llwythi o ffa, ni sylweddolwyd eu gwerth gan forwyr o Brydain aÍr Iseldiroedd. IÍr gwrthwyneb, credon nhw mai tail defaid oeddent, ac feÍu taflwyd iÍr mªr!

Agorodd y Sbaenwyr ffatr¥oedd a falodd ffa coco wediÍu rhostio yn bowdr siocled; a chan gadwÍr broses yn gyfrinach llwyddwyd iÍw allforio ar draws Ewrop, lle daeth yn boblogaidd iawn.

tudalen nesaf
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY