Yn ddiweddar, fe ymwelais â Mary Davies, gwraig fferm o Hendy-gwyn Ar Daf sy’n fam i dri o blant ac yn fam-gu i bedwar. Mae Mary yn rhedeg busnes magu tyrcïod llwyddiannus iawn (fe enillodd Wobr ‘Twrci Gorau Prydain’ yn 1998) ac mae hefyd yn paratoi hamperi Nadolig gan ddefnyddio y cynnyrch lleol gorau - ham Cymreig, Gwin Gwyn Sych Ffynnonlas, Port Ysgawen Cymreig, mêl Cymreig, mins peis, caws Cymreig, eog wedi’i fwgu, pwdin Dolig o law Mary ei hun - heb anghofio twrci Caeremlyn wrth gwrs. Pan fo’n dod at ginio Nadolig, does dim byd gwell gan Mary na thwrci a stwffin a phwdin Nadolig â saws gwyn i ddilyn.
Am gyfle i ennill hamper Caeremlyn gan Mary Davies fydd yn ymddangos yn rhaglen nos Fercher, 8 Rhagfyr, cliciwch yma i drio'r gystadleuaeth.
Os hoffech archebu hamper i'ch hunain neu i aelod o'ch teulu, ewch i wefan Caeremlyn sef www.caeremlyn.co.uk.
8.25PM
BOB NOS MERCHER
gydag isdeitlau Cymraeg
AILDDARLLEDIAD BOB DYDD SUL
4:00PM
gydag is-deitlau ar y sgrin
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

