dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

TEULU CHWAEN GOCH

Yn rhaglen gynta'r gyfres bydd Dudley yn cyfarfod teulu Chwaen Goch, fferm ar lan Llyn Alaw yng nghanol Sir Fôn sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn yn y traddodiad Cymreig o fridio Gwartheg Duon.

Mae plant OG Thomas yn rhan o'r genhedlaeth newydd sydd wedi gorfod arallgyfeirio er mwyn cadw'r traddodiad teuluol yn fyw. Mae'r mab, Brian, wedi sefydlu 'Beef Direct', menter sy'n golygu eu bod nhw'n bwtchera eu cig eu hunain, yn ei becynnu a'i werthu mewn marchnadoedd ffermwyr.

Mae'r ferch, Gwen, wedi dechrau cwmni mygu 'Deri Môn' sy'n mygu pob math o fwydydd lleol ac mae hi hefyd yn rhan o gynllun newydd 'Llety Fferm Ynys Môn', gan gynnig gwely a brecwast i ymwelwyr.

"Mae'n bwysig ein bod ni fel Cymry yn cydnabod arbenigedd a chrefft pobl fel hyn ac yn gwneud cymaint ag y medrwn ni i hyrwyddo'r bwyd bendigedig sydd ar gael yng Nghymru, dim ond i ni fynd ar ei ôl e, " meddai Dudley.

DUDLEY
bob nos Iau am 9.00 pm gydag isdeitlau Cymraeg
ailddarllediad bob dydd Sul am 3.30pm, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin a gwasanaeth llun-ddisgrifio

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY