BWYDYDD CYSUR
"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"
- Oscar Wilde
- Oscar Wilde
YNGLYN Â BWYDYDD CYSUR
BWYDYDD CYSUR: CYSWLLT Â PHLENTYNDOD
Gan ein bod yn dueddol o droi at fwydydd cysur i fodloni'n teimladau, nid yw'n syndod felly ein bod yn bwyta'r math hwn o fwyd pan yn teimlo'n anhwylus, yn y gobaith y bydd yn ein gwneud i deimloÍn well yn fuan. Mae gan gleifion awydd am fwydydd syml fel ffa pôb ar dost, brechdanau tost neu gawl, i'w helpu i gael yr egni i ddod dros eu salwch, ac hefyd, efallai, bod hyn yn deillio o'r hyn a gawsant gan eu rhieni pan yn sâl fel plentyn. Yn ogystal, rhoddir rhai mathau o fwydydd cysur i blant i godi eu hwyliau, neu i'w gwobrwyo os ydyn nhwÍn ymddwyn yn dda.
Fel canlyniad, ystyrir y bwydydd hyn yn fwydydd cysur gan yr oedolion, oherwydd iddyn nhw eu hatgoffa o'r teimladau pleserus a roddwyd iddynt fel plant. Os daw chwant am fwydydd cysur, yn aml byddwn yn dymuno cael y bwydydd yn yr union ffurf yr oeddem wediÍu mwynhau yn gyntaf pan yn blant, ac mae hyn yn ein hatgoffa o deimlo'n gynnes, diogel a llawen. Yn gyffredinol, rydym ni fel oedolion yn teimlo'r chwant am fwydydd a gysylltir â digwyddiadau penodol yn ein bywydau sy'n ysgogi adwaith pleserus ynom bryd bynnag yr ydym yn eu blasu neu'u harogli.