dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
comfort food picture

BWYDYDD CYSUR

"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"

      - Oscar Wilde

BWYDDYDD CYSUR A'N TEIMLADAU

Nid straen yw'r unig beth i beri i rywun droi at fwydydd arbennig am gysur a boddhad. Gall teimladau cyffredinol o dristwch, iselder ysbryd, unigrwydd neu ddiflastod ysgogi chwant am y bwydydd hynny a fydd yn achosi teimladau o fodlondeb.

Ochr arall y geiniog yw'r dystiolaeth sy'n awgrymu bod y rhan helaeth o bobl yn defnyddio bwydydd cysur i ymlacio, neu i gynyddu eu teimladau o lawenydd. Hynny yw, pan fyddwn wrth ein boddau, neu'n teimlo'n fodlon, yn aml byddwn yn dathlu, neu yn gwobrwyo'n hunain trwy fwyta'n hoff fwydydd cysur - i roi'r eisin ar y deisen, fel petai! Er enghraifft, mae'n beth cyfarwydd i bobl ddathlu newyddion da neu ryw lwyddiant arbennig trwy wobrwyoÍu hunain â'u hoff fwydydd - fel arfer trwy fwyta allan.

Yn ogystal, mae'n bosibl fod ein teimladau a'n hwyliau yn dylanwadu ar ba fwydydd rydym ni am gael i'n cysuro. Er enghraifft, efallai byddwn ni'n teimlo'r chwant am blât o sglodion pan yn hapus, yn agor paced o fisgedi siocled pan yn ychydig yn ddigalon, neu estyn am baced o greision os ydym yn segur ac eisiau rhywbeth i wneud i dreulio'r amser.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY