dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
comfort food picture

BWYDYDD CYSUR

"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"

      - Oscar Wilde

BWYDYDD CYSUR A'R RHYWIAU

Mae rhai'n credu fod dynion a merched yn blysio gwahanol fathau o fwydydd cysur. Boed hynny fel y bo: mae tystiolaeth gadarn bob dydd yn awgrymu fod dynion yn dueddol o ofyn am brydau mawr, sylweddol pan yn dymuno bwydydd cysur, tra bod merched yn debygol o ddewis byrbrydau sy'n galw ond am ychydig iawn o baratoi, os o gwbl.

Efallai bydd llawer yn anghytuno â'r awgrym hwn, ond y ddadl y tu-ôl iddo yw bod dynion yn cael cysur mewn bwydydd a gysylltant â'r rheiny a baratoir gartref, gan y fam, y wraig neu'r sboner. Mae'r bwydydd hyn fel arfer yn brydau twym a goginir adref, fel prydau rhost, cawliau ac yn y blaen.

Ar y llaw arall, dywedir bod merched yn cysylltu'r math yma o fwyd â llafur yn y gegin, gan mai'r gwragedd oedd, yn draddodiadol, yn paratoi'r prydau hynny. Gan nad yw merched mor gyfarwydd â chael bwydydd cysur wedi'u paratoi ar eu cyfer, nid ydynt yn derbyn yr un cysur neu foddhad o'r prydau hyn.

Awgrymir mai dyma'r rheswm pam mae gwragedd mewn oed yn tueddu i fwyta byrbrydau o siocled, teisennod neu greision, oherwydd nad yw'r bwydydd hyn yn gofyn gwaith dwyslafur. Beth bynnag yw gwirionedd y ddadl hon, mae'n ffaith mai merched rhwng 25 a 44 oed sy'n bwyta dwy ran o dair o'r cynnyrch o siocled.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY